Skip to content

Dadansoddiad o gost a budd systemau chwistrellu mewn eiddo yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio beth yw cost a budd systemau chwistrellu sydd wedi’u gosod mewn tai, fflatiau pwrpasol a thai sydd wedi’u haddasu’n fflatiau; tai amlfeddiannaeth; cartrefi gofal preswyl; colegau preswyl; ysgolion preswyl a neuaddau preswyl i fyfyrwyr.

Gwnaed y canlynol i lunio’r adroddiad:

  • Adolygiad byr o’r wybodaeth sydd ar gael ar y mater;
  • Casglu data;
  • Dadansoddi cost a budd y systemau;
  • Dadansoddi ansicrwydd a sensitifrwydd.

Roedd yr astudiaeth hon yn ystyried systemau chwistrellu a gafodd eu dylunio, eu gosod a’u cynnal at Safon Brydeinig BS 9251 Systemau chwistrellu ar gyfer eiddo preswyl a domestig - Cod Ymarfer 2005.