Saith cwestiwn cyffredin am ymddygiad Awdurdodau Cynllunio Lleol a sut i gwyno am faterion cynllunio.
Sut ydw i’n gwybod y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn deg?
Mae cyfraith cynllunio yn amlinellu ar ba sail y gwneir penderfyniadau. Hefyd, mae’n ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol baratoi Cod Ymarfer i Gynghorwyr.
Mae hyn yn seiliedig ar Fodel Cod Ymddygiad i Gynghorwyr Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys gofyniad penodol i Aelodau fynd ati i wneud penderfyniadau cynllunio gyda meddwl agored, yn deg ac yn ddiduedd, a chael eu gweld yn gwneud felly.
Gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i honiadau bod Aelod wedi methu â chadw at God Ymarfer awdurdod cynllunio lleol.
Ewch i: Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (dolen allanol)
Sut ydw i’n gwybod y bydd penderfyniadau swyddog dirprwyedig yn cael eu gwneud yn deg?
Mae’n ofynnol bod gan awdurdodau cynllunio lleol gynllun dirprwyo ar waith. Mae hyn yn amlinellu pa fathau o geisiadau fydd yn cael eu dirprwyo i swyddog eu penderfynu, a phryd y gallant gael eu hadfer gan y Pwyllgor Cynllunio.
Dylai’r cynllun hwn fod ar gael i’r cyhoedd allu ei weld ar wefan eich awdurdod cynllunio lleol.
Sut ydw i’n cwyno am benderfyniad cynllunio neu am y ffordd rydw i wedi cael fy nhrin?
Y dull cyntaf o gwyno yw cwyno i’r Adran Gynllunio berthnasol. Mae hwn yn rhoi cyfle i’r Prif Swyddog Cynllunio nodi’r broblem a’i datrys yn fewnol. Os na fyddwch chi’n fodlon â’r ymateb, gallwch gysylltu â Swyddog Monitro’r Cyngor, a fydd yn ystyried eich cwyn.
Y cam olaf yw cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a all ymchwilio i achosion o anghyfiawnder personol sydd wedi codi trwy gamweinyddu, neu honiadau bod Aelodau wedi mynd yn groes i God Ymddygiad eu hawdurdod. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi fod wedi dilyn pob trywydd cwyno arall cyn y bydd yr Ombwdsmon yn ystyried eich achos.
Ewch i: Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (dolen allanol)
Beth ddylwn i ei wneud os yw rhywun wedi gweithredu’n anghyfreithlon mewn perthynas â chais cynllunio?
Gall hyn fod yn fater i’r heddlu. Dylid cymryd gofal i beidio â gwneud cyhuddiadau di-sail, yn enwedig mewn gohebiaeth â thrydydd parti, gan y gallai hyn arwain at honiadau o athrod neu enllib. Fodd bynnag, mae cyhuddiadau bod rhywun wedi twyllo’n fwriadol neu ei fod yn ymwybodol ei fod wedi twyllo mewn perthynas â chynllunio yn fater i’r heddlu, a all benderfynu ymchwilio.
Rydw i’n credu bod penderfyniad cynllunio yn anghywir, beth alla i wneud?
Mae gan awdurdod cynllunio lleol bwerau i ddileu neu newid unrhyw geisiadau y maent wedi’u cymeradwyo. Gallant hefyd ei gwneud hi’n ofynnol i ddefnydd o dir ddirwyn i ben. Mae Gorchmynion Dirymu ac Addasu yn anghyffredin iawn. Mae’n rhaid i Orchmynion o’r fath gael eu cadarnhau gan Llywodraeth Cymru oni bai nad oes unrhyw wrthwynebiad iddynt. Rhaid i Orchmynion Annilynol gael eu cadarnhau gennym bob amser.
Bydd defnyddio’r pwerau hyn fel arfer yn arwain at gostau i’r awdurdod cynllunio lleol, fel iawndal am fuddsoddiad y datblygwyr. Mewn rhai achosion, gallai’r costau hyn fod yn sylweddol, ac o ganlyniad ni ddefnyddir y pwerau hyn yn aml.
Os yw awdurdod cynllunio yn gwrthod ystyried defnyddio’r pwerau hyn, yna mae’n bosibl gofyn am adolygiad barnwrol o benderfyniad cynllunio, ar y sail na chafodd ei ymdrin yn iawn.
Ewch i: Canllawiau Barnwriaeth Cymru a Lloegr ar Broses yr Adolygiad Barnwrol (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Nid yw fy awdurdod cynllunio yn cynnig cyngor cyn ymgeisio nac yn ymateb i’m llythyrau, beth alla i wneud?
Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau yn cynnig trafodaethau cyn ymgeisio nid oes yn rhaid iddynt wneud hynny. Os nad ydynt yn gwneud, gallwch gyflogi Ymgynghorydd Cynllunio - cynllunydd hunangyflogedig preifat sydd â phrofiad o weithio yn yr ardal leol. Dylent allu cynnig cyngor, er y byddan nhw’n codi tâl.
Os ydych yn cael trafferth cyfathrebu gyda’ch awdurdod cynllunio lleol, yna gall eich Cynghorydd lleol siarad ar eich rhan yng nghyfarfodydd yr awdurdod cynllunio lleol. Gallant hefyd gael gair gyda’r swyddogion os ydych chi’n cael trafferth cysylltu â nhw.
Yn olaf, gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i gwynion ynghylch darparu gwasanaeth gwael i gwsmeriaid.
Ewch i: Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (dolen allanol)
Rydw i am gael rhywfaint o wybodaeth gan fy Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod gwybodaeth arbennig, fel cofrestr o geisiadau cynllunio cyfredol, ar gael i’r cyhoedd. Fel arfer, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd ar gael yn swyddfa eich awdurdod cynllunio lleol, gan gynnwys canllawiau ar y system gynllunio a pholisïau cynllunio lleol.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol i bob corff cyhoeddus yn y DU, ac mae’n mynnu eu bod yn darparu unrhyw wybodaeth y gofynnwch amdani, cyn belled nad yw wedi’i heithrio o’r Ddeddf.
Mae yna rai eithriadau, gan gynnwys data personol pobl eraill, sy’n cael ei ddiogelu gan Ddeddf Diogelu Data 1998. Gall methu darparu’r wybodaeth hon arwain at ymchwiliad gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff llywodraethu annibynnol sy’n gyfrifol am weinyddu sut y gweithredir Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Ewch i: Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol, Saesneg yn unig)
Rydw i am gwyno am Llywodraeth Cymru.
Yn y lle cyntaf, dylech chi ysgrifennu at Bennaeth yr Is-adran berthnasol. Ar gyfer yr Adran Gynllunio, cysylltwch â Rosemary Thomas.
Gallwch gysylltu â Rosemary Thomas fel a ganlyn:
Post
Ms Rosemary Thomas
Dirprwy Gyfarwyddwr - Cynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost
Planning.Division@cymru.gsi.gov.uk
Gweithdrefn Gwyno
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb, yna dylech ddilyn ein gweithdrefn gwyno. Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn hon o dan y dolenni cysylltiedig ar ochr dde’r dudalen hon.
Os nad ydych chi’n fodlon gydag ymateb Llywodraeth Cymru gallwn godi’r mater gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ewch i: Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (dolen allanol)
Rydw i am gwyno am glawdd fy nghymydog, â phwy ddylwn i siarad?
Trafodaethau anffurfiol i geisio datrys anghydfod yw’r ffordd orau o ymdrin ag anghydfod ynglŷn â chloddiau uchel. Os nad yw hyn yn datrys y broblem yn foddhaol dylid ystyried cyflafareddu.
Os yw hyn hefyd yn methu, gellir gwneud cwyn ffurfiol i’ch awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr awdurdod yn ymchwilio i’r gŵyn, fodd bynnag fe godir ffi o hyd at £320 arnoch. Mae hwn yn daladwy os yw’r gŵyn yn mynd o’ch plaid chi ai peidio oherwydd mae’n dâl a godir i dalu costau ymchwilio’r awdurdod cynllunio lleol. Apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio fydd yn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod yn ysgrifenedig fel arfer.
Ewch i: Gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio (dolen allanol, Saesneg yn unig)