Skip to content

Canlyniadau, amseru a mesurau llwyddiant

Dylai'r adolygiad arwain at gyhoeddi adroddiad erbyn diwedd mis Mai 2012.

Canlyniadau ac amseru

Dylai'r adolygiad arwain at gyhoeddi adroddiad erbyn diwedd mis Mai 2012 sy'n gwneud argymhellion o ran y canlynol:

  • Opsiynau ar gyfer rhoi'r system gynllunio ar waith yn y dyfodol gan gynnwys dull dewisol o weithredu;
  • Y ddeddfwriaeth gynradd ac eilaidd a'r polisïau a'r canllawiau sydd eu hangen i gyflwyno'r opsiynau a nodwyd a'r dull dewisol o weithredu;
  • Asesiad ledled Cymru o'r adnoddau sydd eu hangen o ran niferoedd a chostau staff i gyflawni'r opsiynau a nodwyd a'r dull dewisol o weithredu
  • Unrhyw welliannau cyflym a nodwyd.

Mesurau llwyddiant

Caiff llwyddiant yr adolygiad ei fesur yn erbyn y canlynol:

  • Ansawdd y dystiolaeth a gesglir a pha mor gynhwysfawr ydyw;
  • Ansawdd y dadansoddiadau a wneir a'r opsiynau a gynigir o ran rhoi'r system ar waith yn y dyfodol;
  • Cyhoeddi'r adroddiad ar yr adolygiad yn amserol;
  • Rhannau perthnasol o'r gymuned fusnes, rheoleiddwyr a llywodraeth ganolog a lleol a sefydliadau anllywodraethol yn cymryd rhan weithredol