Skip to content

Ymchwil a gyhoeddwyd




 

Gwerthuso cydsyniadau ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy

30/01/13
Mae’r ymchwil hwn yn ein helpu i wella’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer datblygiadau ynni carbon isel a datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y tir.
 

Dadansoddiad Technegol BREEAM 2011: Crynodeb Ymchwil

21/11/12
Rydym wedi comisiynu ymchwil i nodi’r goblygiadau o gyflwyno Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) 2011 ar bolisi cynllunio cenedlaethol.
 

Cyflenwi Gwasanaethau Cynllunio mewn Tirweddau sydd wedi'u Pennu'n Statudol yng Nghymru

30/10/12
Rydym wedi comisiynu ymchwil gan Land Use Consultants i gloriannu cyflenwi gwasanaethau cynllunio mewn Parciau Cenedlaethol (PC) ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHONE).
 

Dull Newydd o Reoli Datblygu yng Nghymru: Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru

17/09/12
Adolygwyd y modd y mae defnydd tir yn cael ei reoli yng Nghymru gan Arup, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd a Liz Mills Associates.
 

Agweddau’r cyhoedd tuag at y system gynllunio yng Nghymru

17/09/12
Comisiynwyd ymchwiliad gennym gan Beaufort Research er mwyn gweld beth oedd agweddau, canfyddiadau a'r disgwyliadau o'r system gynllunio.
 

Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol

17/09/12
Comisiynwyd adroddiad gennym ar effeithlonrwydd gwasanaethau cynllunio yng Nghymru yn y dyfodol gan y Grŵp Cynghori Annibynnol dan gadeiryddiaeth y cyn Gyfarwyddwr yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru.
 

Ymchwil: Fframwaith Monitro Strategol ar gyfer y System Gynllunio

04/11/11
Rydym am fesur cyfraniad y system gynllunio at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.  Nodwyd y weledigaeth honno yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, felly comisiynwyd ymchwil i'n helpu i benderfynu sut mae mynd ati i'w gwireddu.
 

Ymchwil: Adolygiad o broses cyd-astudiaethau argaeledd tir ar gyfer tai

12/09/11
Rydym am wneud cyd-astudiaethau argaeledd tir ar gyfer tai yn fwy amserol ac yn fwy defnyddiol. Felly comisiynwyd ymchwil i edrych pa mor ddefnyddiol maen nhw ac i’r broses o’u paratoi.
 
Ymchwil: Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy

Ymchwil: Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy

07/06/11
Ymchwil a werthusodd effeithiolrwydd y polisi cynllunio presennol o ran datblygu’r economi a phennu’r gofynion ar gyfer llunio polisïau a chanllawiau yn y dyfodol yn unol ag ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’.
 
Ymchwil: Goblygiadau Cynllunio Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Ymchwil: Goblygiadau Cynllunio Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

16/07/10
Mae'r system gynllunio'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso prosiectau ynni adnewyddwy mewn lleoliadau addas. Ar yr un pryd mae'n helpu i gydbwyso effeithiau'r datblygiadau arfaethedig ar yr amgylchedd lleol. Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei baratoi i ni gan Ymgynghorwyr Defnyd ...
 
Ymchwil i Ailasesu a Dilysu Ardaloedd Chwilio Strategol (SSA)

Ymchwil i Ailasesu a Dilysu Ardaloedd Chwilio Strategol (SSA)

16/07/10
Comisiynwyd yr ymchwil hon yn 2009. Mae'n cynnig tystiolaeth i lywio'r fframwaith polisi cynllunio diwygiedig ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir o fewn ac o amgylch yr Ardaloedd Chwilio Strategol yng Nghymru.
 
Ymchwil: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr – Adroddiad Argymhellion

Ymchwil: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr – Adroddiad Argymhellion

16/07/10
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r argymhellion ar ôl cwblhau ‘Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr’ a ‘Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr, Astudiaeth Beilot Sir Benfro’.
 

Astudiaeth i archwilio rhwystrau lleol i ddarparu tai fforddiadwy yng nghymru Wledig

06/10/09
Yn 'Cymru’n Un', gwnaethom ni ymrwymo i sicrhau bod 6,500 yn ychwanegol o dai fforddiadwy yn cael eu darparu yng Nghymru rhwng 2007 a 2011. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn edrych ar y rhwystrau i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. Mae’r adroddiad yn enwi hefyd y prif ffactorau gal ...
 

Prosiect Ymchwil i Adolygu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir sydd gan Weithredwyr Ffonau Symudol

20/07/09
Cynhaliwyd yr ymchwil hwn gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae eu hadroddiad yn asesu’r opsiynau posibl i newid yr hawliau datblygu a ganiateir sydd gan weithredwyr ffonau symudol.
 

Ymchwil ar y rhwystrau i Awdurdodau Lleol ym maes Datblygiad Di-garbon

23/06/09
Cwblhawyd y gwaith ymchwil gan Faber Maunsell. Mae’n nodi’r goblygiadau ymarferol i awdurdodau lleol o ran gweithredu a helpu datblygiadau di-garbon a charbon isel drwy’r system gynllunio.
 

Adfer a Gofalu am Weithfeydd Glo ac Agregau yng Nghymru

12/06/09
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r cynnydd o ran adfer a gofalu am safleoedd mwynau yng Nghymru lle mae’r gwaith wedi dod i ben yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
 

Adolygu a Gwerthuso'r Broses o Fonitro Gwaith Rheoli Datblygiad

02/12/08
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno rhestr o argymhellion ar gyfer newidiadau i'r data sy'n cael eu casglu ar ffurflen rheoli datblygiad chwarterol Cymru.
 

Gwerthusiad o Weithgorau Agregau Rhanbarthol Cymru – Crynodeb Gweithredol

01/08/08
Sefydlwyd y Gweithgorau Agregau Rhanbarthol yng Nghymru a Lloegr yn gynnar yn y 1970au. Eu nod oedd rheoli'r angen am agregau (gro, tywod ac ati) yn y diwydiant adeiladu, a'r cyflenwad o'r agregau hynny. Mae'r gweithgorau hefyd yn ymdrin â phryderon am effaith amgylcheddol echdynnu ...
 

Review of Wind Farm Developer Interest in Wales

13/12/07
Mae'r adroddiad hwn yn darparu tyshplaeth o ddiddordeb datblygwr trwy grynhoad gan ddata-bas o geisiadau cynllunio cyfoes ar ffermydd gwynt ar y tir.
 

Adnoddau Glo Brig yng Nghymru – Cynllunio a Chymorth/Adolygiad Amgylcheddol

06/12/07
Derbyniodd Arolwg Daearegol Prydain gontract ar gyfer llunio adroddiad ar adnoddau pyllau glo Cymru, er mwyn hwyluso'r gwaith o ailddrafftio'r Nodyn Cyngor Technegol drafft ar Fwynau Glo (MTAN). Gwnaethant is–gontractio'r ymchwil drwy asesiad amgylcheddol i Arup ym mis Gorffennaf 2006.
 

Ymchwil ynghylch Archwiliadau o Fannau Agored

01/11/07
Gwnaed yr ymchwil hon yn 2007 gan gwmni Nathaniel Lichfield a’i Bartneriaid ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn pennu’r waelodlin ar gyfer asesiadau cynllunio neu archwiliadau o fannau agored cyn diwygio Nodyn Cyngor Technegol 16.
 

Gwerthusiad o’r Prosesau a ddefnyddir i Ddatblygu Polisi Cynllunio Cenedlaethol yng Nghymru - Adroddiad Terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru

24/09/07
Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso'r prosesau i ddatblygu polisi cynllunio a gwneud argymhellion penodol ar gyfer gwella, ynghyd ag asesu sut y dylai'r polisi gael ei gyflwyno.
 

Defnydd a Gwerth Rhwymedigaethau Cynllunio yng Nghymru

30/07/07
Mae'r adroddiad yn disgrifio canlyniadau arolwg o safbwynt rhwymedigaethau cynllunio yn 2005/06, yr ymatebodd pob un o'r 25 awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru iddo. Amcangyfrifir bod gwerth y rhwymedigaethau cynllunio y cytunwyd arnynt yng Nghymru y flwyddyn honno, rhwng £26m a £31m.  Roedd tai f ...
 

Arolwg O Ddeilliannau A Defnydd Agregau O Wastraff Adeiladu A Dymchwel, Gwastraff Cloddio, Gwastraff O Chwareli A Gwastraff Treillio Yng Nghymru Yn 2005 - Crynodeb Gweithredol

12/07/07
Diben y prosiect ymchwil hwn yw canfod amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer deilliant a defnydd agregau o wastraff adeiladu a dymchwel (gwastraff A&D) yng Nghymru yn ystod 2005.
 

Adolygiad a Gwerthusiad Pum Mlynedd o Gynllun Ymchwil Gynllunio Cymru - Adroddiad Terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru

02/07/06
Nod Rhaglen Ymchwil Gynllunio Cymru (WPRP) yw cefnogi anghenion ymchwilio’r broses o ddatblygu polisi cynllunio yng Nghymru. Mae gweithredoedd yr WPRP yn seiliedig ar Astudiaeth Gwmpasu a gwblhawyd yn 2000.
 

Adroddiad yr Adolygiad o'r Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu'r Rhwydwaith Ffonau Symudol: Adroddiad Terfynol - Mawrth 2006

01/03/06
Dyma'r adroddiad terfynol ar astudiaeth o'r ffordd y mae'r Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu’r Rhwydwaith Ffonau Symudol (CoBP) yn cael ei weithredu a pha mor effeithiol ydyw. Mae'n cyflwyno canfyddiadau allweddol ar ddwy agwedd ar y Cod - sut y mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol we ...
 

Mapio Ardaloedd Chwilio am Safleoedd Gwastraff Isranbarthol - Crynodeb Gweithredol

01/11/05
Rhoddwyd contract i RPS gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymarferiad mapioganddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol(GIS) i leoli ardaloedd chwilio eang ar gyfer sefydlu cyfleusterau gwastraff isranbarthol drwy Gymru. I bwrpas y Prosiect hwn, cytunodd y GrwpLlywio fod “isranbarthol” yn golyg ...
 
Hwyluso’r Gwaith o Gynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru : Cyrraedd y Targed – Adolygiad ARUP o Adroddiad Terfynol Mehefin 2005

Hwyluso’r Gwaith o Gynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru: Cyrraedd y Targed – Adolygiad ARUP o Adroddiad Terfynol Mehefin 2005

31/05/05
Adolygiad Arup o Adroddiad Terfynol Mehefin 2005
 

Asesiad ynni o Ardaloedd Chwilio Strategol am safleoedd ynni gwynt o dan TAN 8

31/05/05
Astudiaeth ddichonolrwydd dechnegol o’r saith Ardal Chwilio Strategol arfaethedig ar gyfer ynni gwynt yw’r Asesiad Ynni.
 

Gweithredu’r Fethodoleg i Asesu’r Capasiti Amgylcheddol ar gyfer Agregau Crai (IMAECA) - Crynodeb Gweithredol

01/02/05
Mae Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau (2004) yn cynnig dull gwahanol ar gyfer darparu agregau yng Nghymru drwy asesiad gofalus o’r cyflenwad agregau wedi ei seilio ar astudiaeth o gapasiti amgylcheddol ardaloedd adnoddau.