Skip to content

Ymchwil i Ailasesu a Dilysu Ardaloedd Chwilio Strategol (SSA)

Dolenni perthnasol

Diweddariadau i’r polisi ynghylch cynllunio ar gyfer rheoli gwastraff.
Cyngor technegol ar gynllunio mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Rydym wedi paratoi’r llawlyfr hwn i gynorthwyo swyddogion cynllunio lleol ac eraill i lunio asesiadau ynni adnewyddadwy i gefnogi’u cynlluniau datblygu lleol.
Ymchwil sy'n cynnwys goblygiadau cynllunio, swyddogaethau awdurdodau cynllunio lleol, ac ymdrin â cheisiadau i gynnal datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Comisiynwyd yr ymchwil hon yn 2009. Mae'n cynnig tystiolaeth i lywio'r fframwaith polisi cynllunio diwygiedig ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir o fewn ac o amgylch yr Ardaloedd Chwilio Strategol yng Nghymru.

Mae’r ymchwil:

  • yn monitro'r cynnydd cyfredol at y targedau gwynt ar dir a osodwyd yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 yn 2005;
  • yn dod o hyd i'r rhannau eraill o dir sy'n weddill, ym mhob Ardal Chwilio Strategol (SSA) (ac o fewn 5km i bob SSA)  , y mae'n bosibl datblygu fferm gwynt arnynt;
  • yn diffinio adnodd potensial y tir sy'n weddill o ran cynhyrchu trydan;
  • yn cyflwyno amserlen â strwythur clir i wneud popeth posibl i ddatblygu pob SSA, gan ystyried datblygiadau fferm gwynt cyfredol ac arfaethedig ac effaith eu cysylltu â'r grid.

Cyhoeddir yr ymchwil hon ar ffurf electronig yn unig. Gellir cyflwyno cais am fersiwn ar gryno ddisg (CD) i'w hargraffu.

I gael yr ymchwil hon ar gryno ddisg cysylltwch â:

E-bost: planning.division@wales.gsi.gov.uk