Skip to content

Polisïau ac arweiniad

Dolenni perthnasol

Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
Mae’r cynlluniau hyn yn disgrifio cynigion a pholisïau’r awdurdodau lleol a’r parciau cenedlaethol ar gyfer datblygu a defnyddio tir eu hardaloedd yn y dyfodol.
Clawr Polisi Cynllunio Cymru

Rydym yn pennu polisi ac yn rhoi arweiniad er mwyn helpu i gynllunio’n dda a chyfrannu at ddatblygiad economaidd, cadwraeth natur a gwella ansawdd bywyd.

Nodir y cyd-destun ar gyfer y polisi cynllunio yng Nghymru mewn dwy brif ddogfen:

  • Polisi Cynllunio Cymru – canllawiau ar baratoi cynlluniau datblygu, a’r hyn sydd i’w gynnwys ynddynt, ynghyd â chyngor ar benderfyniadau ac apelau mewn perthynas â rheoli datblygu; a
  • Polisi Cynllunio Mwynau Cymru – canllawiau ar gloddio am unrhyw fwynau neu sylweddau eraill sydd yn y tir, ar y tir neu oddi tano.

Caiff Polisi Cynllunio Cymru a Polisi Cynllunio Mwynau Cymru eu hategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) a Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTANs) ar bynciau penodol.

Mae llythyrau Egluro Polisi yn rhoi cyngor a chanllawiau ar bynciau penodol.

Cyhoeddir Polisi Cynllunio Cymru ar ffurf electronig yn unig ac fe gyhoeddir argraffiad newydd pan gaiff y polisi cynllunio ei newid neu’i ddiweddaru.