Skip to content

Canllawiau ar ddefnyddio’r ffurflen cais cynllunio safonol ('1app') a dilysu ceisiadau

Dolenni perthnasol

Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi cyfarwyddyd ar ddefnyddio’r ffurflen gais safonol a’r wybodaeth sydd ei hangen i bennu dilysrwydd y cais.
Llythyr yn egluro’r newidiadau i’r rheoliadau sy’n cynorthwyo’r defnydd o’r ffurflen cais cynllunio safonol ar-lein a gorchmynion datblygu lleol.
Rydym yn cynllunio i wneud y Ffurflen Gais Safonol yn orfodol. Rydym yn ymgynghori ynghylch a yw hyn yn briodol ac ynghylch y sylwadau ar y dogfennau canllaw drafft.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae pob awdurdod cynllunio lleol ledled Cymru wedi bod yn defnyddio’r ffurflen cais cynllunio safonol (1app) i dderbyn ceisiadau cynllunio electronig.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer Cymru’n cwmpasu:

  • y defnydd o’r ffurflen gais safonol genedlaethol ar gyfer caniatâd cynllunio a threfniadau caniatáu eraill perthnasol;
  • gwybodaeth sydd angen ei hanfon gyda’r cais cynllunio er mwyn i’r awdurdod cynllunio lleol fedru dilysu’r cais.