Skip to content

Cyfarwyddyd a taflenni

Dolenni perthnasol

Arweiniad syml i'r agweddau hynny ar y system gynllunio yr ydych debycaf o ddod ar eu traws.



Arweiniad ar Ddatganiadau ar ddylunio a mynediad

Arweiniad ar Ddatganiadau ar ddylunio a mynediad

03/04/13
Daeth datganiadau dylunio yn ofynnol ar 1af Mehefin 2009.
 

Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Datblygiadau Un Blaned

19/10/12
Cyfarwyddyd yw hwn i’r rhai sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, eu cynghorwyr ac awdurdodau cynllunio lleol.
 
Cynhyrchu eich Ynni Adnewyddadwy Eich Hunan: Arweiniad Cynllunio

Cynhyrchu eich Ynni Adnewyddadwy Eich Hunan: Arweiniad Cynllunio

02/10/12
Gall y taflenni hyn helpu deiliaid tai, cymunedau a busnesau sydd am gynhyrchu eu hynni adnewyddadwy eu hunain. Maent yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y dylid ei ystyried wrth osod technoleg ynni adnewyddadwy, rheoliadau cynllunio a ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau.
 

Nodyn Cyfarwyddyd – Proses Cyd-astudio Argaeledd Tir ar gyfer Tai

19/09/12
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn amlinellu’r broses Cyd-astudio Argaeledd Tir ar gyfer Tai ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol.
 

Astudiaethau Achos: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Adeiladau

31/07/12
Astudiaethau achos sy’n dangos sut mae pobl wedi lleihau ôl troed carbon adeiladau drwy wneud y mwyaf o dechnolegau Adnewyddadwy a Charbon Isel.
 

Cyfarwyddyd Ymarfer: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Adeiladau

31/07/12
Gall y canllaw technegol hwn eich helpu i weld sut y gallwch leihau ôl troed carbon o adeilad newydd, estyniad neu adnewyddiad drwy ddefnyddio technolegau adnewyddadwy a charbon isel yn y broses gynllunio.
 

Canllaw Arfer: gwireddu potensial trafodaethau cyn gwneud ceisiadau cynllunio

30/05/12
Mae’r Canllaw Arfer hwn yn rhoi cyngor i ymgeiswyr ac awdurdodau cynllunio lleol ynghylch sut i wneud y mwyaf o drafodaethau cyn ymgeisio.
 

Canllawiau ar ddefnyddio gorchmynion datblygu lleol

27/04/12
Mae gorchymyn datblygu lleol yn rhoi caniatâd ar gyfer math penodol o ddatblygiad fel nad oes angen i’r datblygwyr gyflwyno ceisiadau cynllunio.
 

Canllawiau ar ddefnyddio’r ffurflen cais cynllunio safonol ('1app') a dilysu ceisiadau

27/04/12
Mae pob awdurdod cynllunio lleol ledled Cymru wedi bod yn defnyddio’r ffurflen cais cynllunio safonol (1app) i dderbyn ceisiadau cynllunio electronig.
 

Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig

12/12/11
Cyfarwyddyd yw hwn i’r rhai sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, eu cynghorwyr ac awdurdodau cynllunio lleol.
 
Adroddiad Gwybodaeth: Rhestr o gyrff statudol ac anstatudol yr ymgynghorir â nhw

Adroddiad Gwybodaeth: Rhestr o gyrff statudol ac anstatudol yr ymgynghorir â nhw

28/09/11
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb defnyddiol o'r gofynion cenedlaethol sydd ar awdurdodau cynllunio lleol i gynnal ymgynghoriad wrth ystyried cais cynllunio.
 
Ardoll Seilwaith Cymunedol - Canllaw i Greu Rhestr Codi Tâl

Ardoll Seilwaith Cymunedol - Canllaw i Greu Rhestr Codi Tâl

06/09/11
Mae Deddf Gynllunio 2008 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, gyda chydsyniad Trysorlys Ei Mawrhydi, lunio rheoliadau sy'n darparu ar gyfer Ardoll Seilwaith Cymunedol. Mae'r daflen hon yn rhoi canllawiau ar baratoi Rhestr Codi Tâl ar gyfer yr Ardoll Se ...
 
Cyfarwyddyd Ymarfer: Goblygiadau Cynllunio Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Cyfarwyddyd Ymarfer: Goblygiadau Cynllunio Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

28/02/11
Mae gan yr awdurdodau cynllunio lleol ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o hwyluso datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Diben y Cyfarwyddyd hwn yw helpu awdurdodau cynllunio lleol i benderfynu ar geisiadau i gynnal datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.
 

Mynegai o Ganllawiau ar Bolisi Cynllunio ar gyfer Cymru

18/08/10
Mae ein canllawiau polisi cynllunio ar gyfer defnyddio tir wedi’u rhannu’n ddwy brif ddogfen, sef “Polisi Cynllunio Cymru” a “Polisi Cynllunio Mwynau Cymru”. Yn ategol i’r dogfennau hyn mae Nodiadau Cyngor Technegol (Cymru) (TANS) sydd wedi’u seilio ar bynciau. Mae’r cylchlythyrau a’r cylchlythyrau ...
 
Arweiniad Ymarferol: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr

Arweiniad Ymarferol: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel – Llawlyfr i Gynllunwyr

16/07/10
Rydym wedi paratoi’r llawlyfr hwn i gynorthwyo swyddogion cynllunio lleol ac eraill i lunio asesiadau ynni adnewyddadwy i gefnogi’u cynlluniau datblygu lleol.
 
Cyflenwi tai fforddiadwy gan ddefnyddio cytundebau adran 106: Cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru

Cyflenwi tai fforddiadwy gan ddefnyddio cytundebau adran 106: Cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru

15/10/09
Mae'r cyfarwyddyd newydd hwn yn ychwanegol at Gyfarwyddyd Ymarfer Gorffennaf 2008. Mae'n edrych ar sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r broses gynllunio i hwyluso'r gwaith datblygu a'i brysuro gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn parhau i gyflenwi cymaint o dai fforddiadwy â ...
 
Taflen ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy

Taflen ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy

30/07/09
Ym mis Mai 2009, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim newydd gan y Gweinidog (01/2009), sef ‘Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy’. Mae’r Datganiad Polisi hwn yn rhoi manylion polisi cynllunio cenedlaethol newydd sy’n pennu’r isafswm o ran lefelau cynaliadwyedd ...
 

Deunydd hyfforddi ar ‘Cynllunio ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd – Darparu Adeiladau Cynaliadwy a Dylunio o Safon’

29/07/09
Rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru grant i’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) yng Nghymru allu cynnal gweithdai hyfforddi rhanbarthol. Roedd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar ‘Cynllunio ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd: Darparu Adeiladau Cynaliadwy a Dylunio o Safon’.
 

Cynllunio ar gyfer Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr

06/01/09
Canllawiau i helpu Sipsiwn a Theithwyr gynllunio'u safleoedd carafannau.
 
Canllaw Cynllunio i Ddeiliaid Tai ar gyfer Gosod Antenâu, gan gynnwys Dysglau Lloeren

Canllaw Cynllunio i Ddeiliaid Tai ar gyfer Gosod Antenâu, gan gynnwys Dysglau Lloeren

23/12/08
Canllaw ymarferol i Ddeiliaid Tai.
 

Cyflenwi tai fforddiadwy gan ddefnyddio Cytundebau Adran 106: Cyfarwyddyd Ymarfer

15/08/08
Arf yw'r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn, ynglŷn â Chytundebau Adran 106, i gynorthwyo Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl'au) i gyflenwi rhagor o dai fforddiadwy drwy'r gyfundrefn gynllunio.
 
Gwella eich Cartref - Canllaw Newid Hinsawdd

Gwella eich Cartref - Canllaw Newid Hinsawdd

03/07/08
Llwythwch ein canllaw ar sut i wella’ch cartref i’ch helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd.
 

Llawlyfr Strydoedd - Mawrth 2007

05/04/07
Mae’r Llawlyfr Strydoedd yn ganllaw i’r bobl sy’n cynllunio, dylunio, darparu a chymeradwyo strydoedd preswyl newydd neu sy’n addasu strydoedd sydd eisoes yn bod.
 

Cymhwyso’r Deddfau Cynllunio i’r Goron

07/06/06
Ers 7 Mehefin 2006 ac yn dilyn deddfwriaeth newydd, mae’r Deddfau Cynllunio yn gymwys i’r Goron, ar wahân i ambell eithriad. Yn y gorffennol yr oedd y Goron wedi’i heithrio o’r system gynllunio. Erbyn hyn, mae’n rhaid i gyrff y Goron wneud cais cynllunio ar gyfer datblygiadau yn yr un modd ag ymgei ...
 

Ffïoedd am fonitro safleoedd mwyngloddio a thirlenwi – canllaw gweithredu ac arfer da

01/05/06
Mae’r canllaw hwn yn esbonio cwmpas y drefn newydd a’r egwyddorion arfer da y mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i bawb eu dilyn. Nid yw’r canllaw’n cynnig dehongliad pendant o’r gyfraith gynllunio. Mater i’r llysoedd fydd hynny.