Skip to content

Cynhyrchu eich Ynni Adnewyddadwy Eich Hunan: Arweiniad Cynllunio

Dolenni perthnasol

Mae gwahanol fathau o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gael i ni. Mae rhai o’r technolegau a’u manteision yn cael eu hesbonio yn y fan yma.
Llwythwch ein canllaw ar sut i wella’ch cartref i’ch helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd.
Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r sialensiau pwysicaf sy’n wynebu’r byd - ac un y mae angen i ni i gyd fynd i’r afael â hi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gall y taflenni hyn helpu deiliaid tai, cymunedau a busnesau sydd am gynhyrchu eu hynni adnewyddadwy eu hunain. Maent yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y dylid ei ystyried wrth osod technoleg ynni adnewyddadwy, rheoliadau cynllunio a ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau.

Mae'r hinsawdd yn newid nawr. Mae'n un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd – ac yn un sy'n gofyn i ni i gyd gymryd camau i fynd i'r afael â hi. Mae Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i leihau allyriadau 3% y flwyddyn. Ni all hyn ddigwydd oni bai bod pawb – pob lefel o'r llywodraeth, pobl, cymunedau a sefydliadau – yn gwneud eu rhan.

Meddwl am gynhyrchu eich ynni eich hunan drwy dechnolegau adnewyddadwy bach a lleol?

Gall cynhyrchu ynni adnewyddadwy helpu i leihau eich ôl troed carbon. Gall helpu cartrefi, cymunedau a busnesau wneud eu cyflenwad ynni yn fwy diogel a'ch helpu chi i leihau eich biliau ynni.