Skip to content

Cyfarwyddyd Ymarfer: Goblygiadau Cynllunio Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel

Dolenni perthnasol

Mae gwahanol fathau o ffynonellau ynni adnewyddadwy ar gael i ni. Mae rhai o’r technolegau a’u manteision yn cael eu hesbonio yn y fan yma.
Diweddariadau i’r polisi ynghylch rhoi pwyslais ar ddatblygu cynaliadwy a datblygu economaidd.
Cyngor technegol ar gynllunio mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Rydym wedi paratoi’r llawlyfr hwn i gynorthwyo swyddogion cynllunio lleol ac eraill i lunio asesiadau ynni adnewyddadwy i gefnogi’u cynlluniau datblygu lleol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae gan yr awdurdodau cynllunio lleol ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o hwyluso datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Diben y Cyfarwyddyd hwn yw helpu awdurdodau cynllunio lleol i benderfynu ar geisiadau i gynnal datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

Ar gyfer pob technoleg ynni adnewyddadwy a charbon isel, mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi:

  • Disgrifiad syml nad yw'n dechnegol;
  • Y prif gyfyngiadau technolegol ac ariannol;
  • Materion y drefn gynllunio;
  • Effeithiau a manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd;
  • Mesurau dylunio, lliniaru a gwella.

Mae hefyd yn ystyried:

  • Effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar y technolegau hyn;
  • Sbardunau a rhwystrau ariannol perthnasol a allai fodoli;
  • Swyddogaeth cynnwys cymunedau a manteision cymunedol sy'n dod o'r technolegau hyn;
  • Swyddogaeth y technolegau hyn o fewn ardaloedd a safleoedd penodedig;
  • Y cyfleoedd o ran cymryd rhan, dylunio da a chynllunio.

Dylid darllen y cyfarwyddyd ymarfer hwn law yn llaw â Nodyn Cyngor Technegol 8 Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.

Mae'r cyfarwyddyd ymarfer yn tynnu ar gasgliadau'r gwaith ymchwil a gafodd ei baratoi i ni gan Ymgynghorwyr Defnydd Tir a Chanolfan Ynni Cynaliadwy.

Diweddarwyd y cyfarwyddyd ymarfer yn 2011 er mwyn cynnwys canllawiau ar oblygiadau cynllunio rhesi o baneli solar.