Skip to content

Cyfarwyddyd Ymarfer ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig

Dolenni perthnasol

Diweddariadau i’r polisi ynghylch rhoi pwyslais ar ddatblygu cynaliadwy a datblygu economaidd.
Cyngor cynllunio i helpu i gyflenwi cymunedau gwledig cynaliadwy.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyfarwyddyd yw hwn i’r rhai sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, eu cynghorwyr ac awdurdodau cynllunio lleol.

Rydym wedi paratoi’r Cyfarwyddyd Ymarfer hwn i helpu swyddogion cynllunio lleol a phobl sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio i ddeall y gofynion ar gyfer Anheddau Mentrau Gwledig a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 6 - Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

Mae’r cyfarwyddyd ymarfer hwn yn gwneud y canlynol:

  • egluro mewn mwy o fanylder beth yw Anheddau Mentrau Gwledig;
  • amlinellu sut y dylid cyfiawnhau ac asesu ceisiadau i’w datblygu;
  • rhoi cyngor ymarferol ar y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi ceisiadau cynllunio;
  • nodi manylion ffynonellau cymorth.