Skip to content

Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 5, Tachwedd 2012)

Dolenni perthnasol

Dylid eu darllen hefyd ynghyd â Datganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog, yn ogystal ag unrhyw gylchlythyron.
Mae cylchlythyrau yn rhoi canllawiau ar weithdrefnau cynllunio.
Mae’r llythyr hwn yn cyflwyno’r newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru.
Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
llyfryn Polisi Cynllunio Cymru
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi cynllunio defnydd tir cyfredol ar gyfer Cymru.

Mae’n darparu’r fframwaith polisi ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol er mwyn iddynt baratoi cynlluniau datblygu yn effeithiol.

Caiff ei hategu gan 21 o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) ar bynciau penodol. Rhoddir canllawiau ar weithdrefnau yng nghylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig / Cynulliad Cenedlaethol Cymru / Llywodraeth Cymru.

Gallai Polisi Cynllunio Cymru, y TANs a’r cylchlythyrau fod yn berthnasol i benderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol. Bydd Gweinidogion Cymru a’r Arolygwyr Cynllunio yn ystyried y rhain wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy’n cael eu galw i mewn ac apelau.


Gallwch lawrlwytho Polisi Cynllunio Cymru isod. Mae’n cynnwys cysylltiadau gwe â’r holl ddogfennau cyfeirio, ac eithrio cylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r rhain ar gael gan y Ganolfan Gyhoeddiadau:

e-bost: wag-cy@mailuk.custhelp.com

ffôn: 029 2082 3683.

Mae’r ddogfen lawn isod yn ffeil gymharol fawr (6MB) a gallai gymryd peth amser i lawrlwytho. Mae’r penodau unigol hefyd ar gael isod ac maent yn ffeiliau llai o lawer.

Hefyd, mae crynodebau o’r newidiadau a wnaed i argraffiadau blaenorol o Bolisi Cynllunio Cymru a chrynodeb o’r newidiadau diweddaraf ar gael.

Sut i ddefnyddio’r ddogfen hon

Mae’r dogfennau y cyfeirir atynt a’r nodiadau esboniadol yn Polisi Cynllunio Cymru ar gael fel nodau tudalen o fewn y ddogfen. Maent hefyd yn cael eu rhestru ar ddiwedd pob pennod. Mae’r dogfennau a’r nodiadau hyn yn darparu gwybodaeth y dylid eu darllen ar y cyd â Polisi Cynllunio Cymru.

Cyhoeddir Polisi Cynllunio Cymru ar ffurf electronig yn unig. Ymgynghorir ar unrhyw newidiadau arfaethedig ar ffurf newidiadau drafft i’r polisi cynllunio. Unwaith y cytunir arnynt, caiff argraffiad newydd o Polisi Cynllunio Cymru ei gyhoeddi.