Skip to content

Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1: Cyd-Astudiaethau Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai (2006)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r nodyn hwn yn rhoi canllawiau ar baratoi Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS).

Diben yr astudiaethau hyn yw:

  • monitro'r ddarpariaeth ar gyfer tai y farchnad agored a thai fforddiadwy;
  • darparu datganiad y cytunwyd arno ynghylch argaeledd tir preswyl at ddibenion cynllunio a rheoli datblygiadau; a
  • nodi'r angen i weithredu mewn sefyllfaoedd lle gwelir bod y cyflenwad yn annigonol.

Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o gyflenwad o dir ar gael mewn gwirionedd i ddarparu tir ar gyfer tai am 5 mlynedd. Rhaid i'r cyflenwad tir hwn lywio'r strategaeth a nodir yn y cynllun datblygu. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol hefyd gadw mewn cof y gofyniad i baratoi a darparu ffigurau amserol ar y cyflenwad tir ar gyfer tai er mwyn cwrdd â gofynion y Dangosyddion Cynllunio Craidd yn Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ac Adroddiadau Monitro Blynyddol y Cynlluniau Datblygu Lleol.