Skip to content

Datganiad cydymffurfiaeth

Rydym yn gyfrifol am gasglu, crynhoi, prosesu, dadansoddi, dehongli a lledaenu ystod eang o ystadegau.

Er mwyn sicrhau bod pobl yn ymddiried yn yr wybodaeth swyddogol a ddarperir, ein nod yw sicrhau bod ein holl ystadegau yn cael eu llunio yn unol â'r trefniadau a nodwyd yn y Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac yn glynu wrth yr egwyddorion a nodwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

Mae Ystadegau Gwladol yn cynnwys data o'r llywodraeth a gynhyrchir yn unol â'r safonau proffesiynol a bennwyd yn y Cod Ymarfer, a chânt eu hadnabod gan logo Ystadegau Gwladol. Serch hynny, o fewn Llywodraeth Cymru y mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Cod Ymarfer yn gymwys i'r holl ystadegau swyddogol.

Fframwaith, i'r Cod a'r Protocolau

Wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus: Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru, 2007

Wefan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig: Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol

Wefan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig: Arweiniad yr Ystadegydd Cenedlaethol

Protocol Trefniadau Cyhoeddi Ystadegau gan Lywodraeth Cymru

Yn unol â'r protocol ar Reoli Ansawdd ein nod yw sicrhau bod ein holl ystadegau yn addas at eu pwrpas. Rhoddir digon o wybodaeth addas i ddefnyddwyr er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch yr ystadegau a ddarperir gennym.  

Mae ein holl gynnyrch data, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u pennu fel 'Ystadegau Gwladol', i'w cael trwy'r Ganolfan Gyhoeddiadau.

Wefan Ganolfan Gyhoeddiadau: Cyhoeddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru

Yn ogystal â chydymffurfio â'r Cod Ymarfer a'r Protocolau sy'n ei gefnogi, caiff pob un o'r ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â'r datganiadau a'r polisïau canlynol, ac mae pob un ohonynt yn rhan annatod o'r Datganiad Cydymffurfiaeth hwn.

  • Polisi Rheoli Data
  • Y Strategaeth Gyhoeddi
  • Datganiad ar Drefniadau Cyhoeddi Ystadegau
  • Datganiad ar Ddiwygiadau a Chamgymeriadau
  • Datganiad ar Gyfrinachedd a Gweld Data
  • Datganiad ar Wasanaethau i Gwsmeriaid a Chwynion
  • Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol
  • Costau cydymffurfio arolygon