Skip to content

Datganiad ar wasanaethau i gwsmeriaid a chwynion

Dolenni perthnasol

Rydym bob amser yn gwerthfawrogi ymholiadau ac adborth gan gwsmeriaid.

Cyhoeddir y Datganiad hwn yn unol â'r gofynion a bennwyd yn y Protocol ar Ymrwymiad Defnyddwyr. Mae'n sôn am ein bwriad i ddarparu gwasanaeth ar lefel uchel iawn i bob un o'n cwsmeriaid. Yn fwy penodol, ein nod yw bodloni'r safonau canlynol o ran gwasanaethau i gwsmeriaid. Y mae hefyd yn esbonio ein polisi o ran delio â chwynion.

Gwasanaeth i gyflenwyr data

Byddwn yn mynd ati o ddifrif i weithredu'n effeithiol gan roi cyn lleied o waith ag sy'n bosibl i'r rhai sy'n darparu data a thrwy integreiddio ein gwaith ar ystadegau ledled y llywodraeth. Byddwn yn ofalus iawn o'r wybodaeth a ddarperir i ni a byddwn yn parchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno sy'n datgelu ffeithiau personol yn unol â'r Datganiad Cyfrinachedd sy'n mynd law yn llaw â'r datganiad hwn.  

Gwasanaeth i ddefnyddwyr

Byddwn yn cynnal perthnasedd pob un o'n gweithgareddau ystadegol er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn bodloni anghenion ein defnyddwyr a, lle mae'n bosibl, yn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarparwn o fewn cyrraedd pawb yn y gymuned. 

Rydym yn croesawu sylwadau cadarnhaol mewn perthynas â phob dim a wneir gennym oherwydd byddant yn ein helpu i wella'n gwasanaeth.

Safonau gwasanaeth

Ein nod yw glynu wrth ein Safonau Gwasanaeth.

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am y gwasanaeth, cysylltwch â:
Uned Polisi Ystadegau
Y Gyfarwyddiaeth Ystadegol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Mae'r safonau cwyno sy'n berthnasol i Ystadegau Gwladol wedi eu cynnwys yn natganiad cyffredinol Llywodraeth Cymru.