Skip to content

Polisi rheoli data

Cyhoeddir ein polisi rheoli data yn unol â'r gofynion a nodwyd yn y Protocol ar Reoli Data, Dogfennaeth a Chadw Data. Mae'n berthnasol i'n holl ystadegau, p'un ai a ydynt yn deillio o ffynonellau gweinyddol neu ystadegol, ac ar ba ffurf bynnag y cânt eu cyhoeddi. Mae'r polisi hefyd yn berthnasol i unrhyw ddogfennaeth neu fetadata perthnasol.

Gweithredu'r polisi

Y Prif Ystadegydd

Prif Ystadegydd y Sefydliad sy'n gyfrifol am gadw llygad ar y polisi Rheoli Data ac am ei gydlynu, ynghyd â bod yn gyfrifol am stiwardiaeth pob un o ddaliadau data y sefydliad. 

Eu cyfrifoldebau nhw fydd sicrhau bod ein sefydliad yn rheoli ei ffynonellau data yn unol â'r egwyddorion arferion gorau a'r safonau a bennwyd yn y Cod Ymarfer ar Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol; y Datganiadau a'r Polisïau sy'n rhan o'r datganiad Cydymffurfiaeth hwn, ac yn unol â goblygiadau statudol y sefydliad. Y Prif Ystadegydd sy'n gyfrifol am: 

  • gasglu a chadw metadata ar gyfer cylch cyfan yr adnoddau ystadegol a reolir, gan ddefnyddio'r system cofnodi metadata safonol a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) - mae'n bosibl gweld cynnwys y GSS drwy wefan Ystadegau Gwladol - ynghyd â meithrin unrhyw system GSS newydd unwaith y bydd yn barod. Mae'r Gyfarwyddiaeth Ystadegol wrthi'n datblygu un gofrestr gynhwysfawr a gaiff ei chynnal a'i chadw'n ganolog ar gyfer yr holl fetadata, yn cynnwys gwybodaeth allweddol ar gyfer yr holl asedau data. Bydd hyn yn symleiddio'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer storio data, gan sicrhau bod y metadata ar gael ar gyfer yr holl asedau data a bod ymholiadau am fetadata yn cael eu hateb yn fwy effeithiol drwy un ffynhonnell safonol
  • diogelu unplygrwydd a diogelwch y daliadau data yn unol â pholisïau cyffredinol y sefydliad ar ddiogelwch a pharhad busnes sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
  • Archifo adnoddau yn unol â pholisi cyffredinol y sefydliad ar gasglu, cadw a distrywio data sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Rheolwyr Data

Bydd gan bob un o'r setiau data swyddog sy'n gyfrifol am weithredu'r Polisi Rheoli Data o ddydd i ddydd. Bydd dyletswyddau'r Rheolwyr Data yn datblygu i gyd-fynd â'r gwaith o ddatblygu'r systemau a'r polisïau a ddisgrifiwyd uchod.