Skip to content

Strategaeth gyhoeddi

Mae'r strategaeth yn cyhoeddi yn unol â gofynion Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol a'c Arweiniad yr Ystadegydd Cenedlaethol sy'n Cyd-fynd.

Ei nod yw sicrhau bod ein Hystadegau Cenedlaethol ar gael i gynifer o bobl ag sy'n bosibl a sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud o'n gwybodaeth ystadegol ym mhob maes - yn amodol ar yr angen i gydymffurfio â'r cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol a'r cyfyngiadau o ran cyfrinachedd.  Bydd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn:

Adnabod ein cwsmeriaid

Bydd cynnwys ein hadnoddau a'n cynnyrch a'r wybodaeth ategol y byddwn yn ei darparu yn seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid.

Trosglwyddo gwybodaeth i'n defnyddwyr

Byddwn yn helpu cwsmeriaid a defnyddwyr i ddeall a gwneud y defnydd gorau o'n cynnyrch drwy gyhoeddi gwybodaeth a deunydd ategol, cefndirol neu addysgol. Byddwn hefyd yn annog defnyddwyr i ddefnyddio'r Gwasanaeth Ymholiadau i Gwsmeriaid.

Brand cyffredin

Byddwn yn ei gwneud hi'n haws i adnabod pa gynnyrch o'n heiddo sy'n dwyn y brand 'Ystadegau Cenedlaethol' drwy ddefnyddio logo cyffredin a thrwy gydymffurfio ag arferion a gweithdrefnau safonol.

Y we

Er mwyn sicrhau bod yr ystadegau ar gael i gynifer o bobl ag sy'n bosibl ac er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer trafodaethau cyhoeddus, byddwn yn defnyddio'r we fel y prif gyfrwng i ledaenu ystadegau. Byddwn yn parhau i ddarparu dogfennau ar ffurfiau eraill yn unol â'n hymrwymiadau statudol a lle bo digon o alw.

Codi tâl

Bydd yr holl wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi ar-lein yn ddi-dâl yn y pwynt cyswllt. Bydd unrhyw daliadau y byddwn yn eu codi yn cydymffurfio â'r rheolau a'r gweithdrefnau sydd yn y Protocol.

Hygyrchedd

Byddwn yn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r data a gyhoeddwyd gennym a'i deall drwy gynnig canllawiau clir a defnyddio gweithdrefnau safonol mewn perthynas â llunio dogfennau.