Skip to content

Datganiad ar ddiwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau

Dolenni perthnasol

Mae'r datganiad hwn yn egluro'r prosesau i'w dilyn pan gaiff allbynnau ystadegol eu diwygio neu eu gohirio.
Dudalen y dogfennau i’w cyhoeddi cyn hir restr gynhwysfawr o benawdau, datganiadau, bwletinau a chyhoeddiadau ystadegol sydd ar fin eu cyhoeddi.

Mae hyn yn esbonio sut byddwn yn cyfathrebu ynghylch newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’n hallbynnau ystadegol swyddogol. Mae’n nodi sut byddwn yn sicrhau ein bod yn agored ac yn dryloyw, ac yn sicrhau’i bod yn hawdd i ddefnyddwyr ein hystadegau gael mynediad hawdd i wybodaeth gynhwysfawr am newidiadau. Mae’n ofynnol i ni wneud hyn yn ôl egwyddor 2 y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

Camgymeriadau

  • Mae llawer o’r newidiadau y byddwn yn eu gwneud yn rhai arferol, di-nod ac yn nodwedd anochel ym maes ystadegau. Gall defnyddwyr gynllunio ar gyfer y newidiadau hyn. Fodd bynnag, mae modd osgoi rhai o’r newidiadau i’r perwyl wu bod yn digwydd yn sgil camgymeriadau neu wendidau yn ein gweithdrefnau neu’n systemau. Yn yr ail achos, p’un ai ni neu eraill sy’n gyfrifol am y camgymeriad, byddwn yn dilyn y gweithdrefnau isod.

Newidiadau heb eu cynllunio (oherwydd camgymeriadau)

  • Yn unol ag awdurdodi terfynol gan y Prif Ystadegydd, dylai penaethiaid adran a phennaeth yr uned polisi ystadegol benderfynu ar y cyd a yw camgymeriad yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau newid neu dynnu’r wybodaeth yn ôl. Os felly, dylid cymryd y camau canlynol. Os nad yw’r camgymeriad yn un sylweddol, gwall teipio er enghraifft, dylid cywiro’r ddogfen a’i hail-lwytho ar y we.
  • Cyn gynted ag y sylwir ar gamgymeriadau sylweddol mewn allbwn, caiff defnyddwyr eu hysbysu dros y we, drwy restr bostio’r pwnc hwnnw a’r cysylltiadau polisi. Os yw’r camgymeriadau’n sylweddol neu’n niweidiol, caiff datganiad i’r wasg eu gyhoeddi i rybuddio defnyddwyr wrth i’r ystadegau diwygiedig gael eu paratoi.
  • Caiff yr ystadegau diwygiedig eu cyhoeddi cyn gynted ag sy’n ymarferol, unwaith eto’n unol â’r Protocol Arferion Cyhoeddi. Er enghraifft byddant cyhoeddiad yn cael ei wneud amdanynt ymlaen llaw, yna fe’u cyhoeddir am 9:30am yn ystod yr wythnos. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd newidiadau heb eu cynllunio yn digwydd drwy lunio Datganiad neu Fwletin diwygiedig sy’n cwmpasu’r un data a’r cyfnodau o amser â’r gwreiddiol, gyda’r un cyfeirnod ond gyda’r llythyren (R) yn dilyn. Yn y prin achosion lle mae Datganiad neu Fwletin yn cywiro camgymeriadau mewn data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol ond hefyd yn cynnwys data ar gyfer cyfnod amser newydd, caiff cyfeirnod newydd ei ddefnyddio. Caiff y data diwygiedig ar gyfer cyfnodau amser blaenorol eu nodi felly’n glir.
  • Cyn belled ag sy’n bosibl, caiff yr ystadegau diwygiedig eu cyhoeddi i’r un cynulleidfaoedd a thrwy’r un cyfrwng. Bydd yr un wybodaeth ategol yn cael ei darparu.

Mae gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegol ganllawiau manwl ar newidiadau, camgymeriadau a gohirio.

Dyma’r allbynnau sy’n cael eu cyfrif fel Cyhoeddiadau Allweddol

Addysg a dysgu gydol oes

  • Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgolion.
  • Canlyniadau arholiadau yng Nghymru.
  • Cyllid myfyrwyr: lwfansau cynhaliaeth addysg a ddyfernir yng Nghymru.
  • Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol yng Nghymru.

Addysg a sgiliau trawsbynciol

  • Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur.

Iechyd

  • Amseroedd atgyfeirio at driniaeth.
  • Amseroedd aros diagnostig a therapi.
  • Atgyfeiriadau meddygon teulu.
  • Amseroedd aros damweiniau ac achosion brys.

Economi a’r farchnad lafur

  • Allforion.
  • Mynegai cynhyrchu ac adeiladu.
  • Mynegai gwasanaethau’r farchnad.

Mae’r Cyhoeddiadau Allweddol yn destun newidiadau rheolaidd wedi’u cynllunio.

I gael gwybodaeth am gyhoeddi, gweler tudalen I’w Cyhoeddi Cyn Hir.