Skip to content

Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru

Mae pwyllgor cyswllt ystadegol Cymru (PCYC) yn hyrwyddo cysylltiad ac ymgynghoriad ymhlith cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru ynghylch materion sy’n ymwneud â data ac ystadegau. Mae’r pwyllgor yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r sector cyhoeddus.

Amodau Gorchwyl

Dyma bedwar diben Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru (PCYC):

  1. Hysbysu Cyfarwyddiaeth Ystadegol a Gwasanaeth Ystadegol Ehangach y Llywodraeth am yr ystadegau mae cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru eu hangen gan ffynonellau llywodraeth ganolog.
  2. Helpu cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru i gadw llygad a dylanwadu ar ddatblygiadau ym maes ystadegol y llywodraeth – yn arbennig y datblygiadau o dan ofal Llywodraeth Cymru.
  3. Hyrwyddo’r cysylltiad rhwng cyrff y sector cyhoeddus i ddatblygu a defnyddio’r setiau data mae cyrff yng Nghymru eu hangen.
  4. Nodi materion, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chasglu a lledaenu data ystadegol ymhlith cyrff y sector cyhoeddus, a materion sy’n ymwneud â dulliau sy’n gyffredin i fyd llywodraeth ganolog a lleol sydd angen eu hystyried gan gylchoedd eraill neu weithgorau a drefnwyd gan PCYC, a monitro cynnydd yn ôl yr angen.

Aelodaeth

Mae aelodau’r Pwyllgor wedi’u henwebu gan:

  • awdurdodau lleol
  • Atebion Iechyd Cymru, Canolfan Iechyd Cymru, Gwasanaeth Iechyd Gwladol y Cyhoedd a Charfan Dadansoddi Gwybodaeth am Iechyd
  • Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru
  • Parciau Cenedlaethol
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Tân Cymru
  • Awdurdodau Heddlu Cymru.