Skip to content

Ystadegau ar Ardaloedd Bach Amaethyddol, 2002 i 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar amaethyddiaeth at lefel lleol a gynhyrchir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar ardaloedd tir Amaethyddol, nifer o wartheg a nifer o weithwyr amaethyddol yng Nghymru yn cynnwys data ar gyfer lefel ardaloedd bach a graddfa ranbarthol.  Mae’r data yn cychwyn o fis Mehefin o bob blwyddyn o’r cyfnod 2002 i 2007.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 23 Awst 2007.

Mae gan y datganiad 3 phrif bwrpas:

  • Ffynhonnell o ddata amaethyddol ar lefel leol i ymchwilwyr a dadansoddwyr.  Mae gennym gyfres gyson o ganlyniadau ar gyfer arolygon amaethyddol ym mis Mehefin o 2002 i 2007 ar ffurf taenlen ar wefan y Cynulliad.
  • Mae’r bwletin yn disgrifio’r ffyrdd rydym ni’n sicrhau na chaiff gwybodaeth sydd o bosibl yn nodi ffermwyr neu ffermydd unigol ei chyhoeddi.  Gwneir hyn er mwyn diwallu gofynion y Deddfau Diogelu Data, Deddf Ystadegau Amaethyddol a chod ymarfer Ystadegau Cenedlaethol.
  • Mae’r bwletin hefyd yn ystyried y materion sy’n ymwneud ag ansawdd y data wrth ddefnyddio canlyniadau o Arolwg Amaethyddol mis Mehefin.  Mae hyn yn helpu defnyddwyr i benderfynu pryd mae’r canlyniadau’n “addas i’r pwrpas” a phryd i’w defnyddio fel sy’n briodol.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 6822
E-bost: stats.agric@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2009 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')