Skip to content

Allbwn ac Incwm Amaethyddol Cyfun, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf am allbwn ac incwm amaethyddol cyfun a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 28 Chwefror 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Cyflwynir ystadegau ar allbwn, Gwerth Gros Atodol (GVA) amaethyddiaeth a Cyfanswm Incwm o Ffermio (TIFF) ar gyfer 2008-10.  Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau blaenorol a gyhoeddwyd ar 18 Chwefror 2010.

Dyma bwyntiau allweddol y cyhoeddiad diweddaraf:

  • Amcangyfrifir i’r Cyfanswm Incwm o Ffermio (TIFF) leihau gan 19 y cant, o £220.8 miliwn yn 2009 i £178.2 miliwn yn 2010.
  • Cynyddodd gwerth allbwn amaethyddol yn Nghymru yn 2010 oddeutu 3% i £1.2 biliwn. Bu cynnydd yng ngwerth allbwn o’r sectorau grawnfwydydd, defaid a llaeth ond bu lleihad yn ngwerth allbwn yn y sector gwartheg.
  • Cynyddodd Treuliant Canolraddol gan oddeutu 6 y cant. Gyrrwyd y cynnydd hwn gan brisiau uwch am borthiant, gwrtaith a thanwydd yn 2010.
  • Gostyngodd gwerth taliadau cymhorthdal o £357.4 miliwn yn 2009 i £330 miliwn yn 2010. Daw’r gostyngiad hwn, i ran helaeth, oherwydd newidiadau yn y gyfradd cyfnewid rhwng y £/€ a effeithiodd gwerth y Taliad Sengl.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5047
E-bost: andrew.hobden@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')