Skip to content

Peilot 2009-10 ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru: Y Prif Ganlyniadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cynhyrchir prif ganlyniadau peilot 2009-10 ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 25 Tachwedd 2010, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae canlyniadau'r arolwg yn cynnwys data ar lefel Cymru a gasglwyd rhwng Hydref 2009 a Gorffennaf 2010. Bydd dadansoddiad mwy manwl o'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror 2011. Yn y cyfamser bydd canlyniadau pellach ar gael drwy wneud cais a bydd y set ddata ar gael ar wefan Archif Ddata’r DU o fis Ionawr 2011.

Mae'r datganiad hwn ond yn cynnwys detholiad o'r canlyniadau sydd ar gael ar yr amrywiaeth eang o bynciau mae’r arolwg yn cwmpasu. Roedd yr arolwg yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • barn dinasyddion am wasanaethau cyhoeddus;
  • lles a boddhad bywyd;
  • cymdogaeth a chyfleusterau’r ardal leol;
  • amgylchedd;
  • defnyddio'r rhyngrwyd;
  • gwirfoddoli; a
  • cludiant.

Er mwyn helpu i ddadansoddi'r canlyniadau ar y pynciau hyn, gofynnwyd cwestiynau hefyd ar ddeiliadaeth, oed, rhyw, ethnigrwydd, crefydd, cyfansoddiad y cartref, incwm a chyflogaeth.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Archif Ddata’r DU 

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 3035
Ebost: surveys@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)