Skip to content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru Mynegai Plant 2011

Dolenni perthnasol

Dyma’r mesur swyddogol o amddifadedd perthnasol plant ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru Mynegai Plant 2011 ar 31 Awst 2011 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Y Mynegai Plant yw’r mesur swyddogol o amddifadedd perthnasol plant ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae Mynegai Plant 2011 yn diweddaru’r datganiad blaenorol yn 2008. Caiff ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • mae’r set ddata lawn ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant 2011, sy’n gosod y 1,896 ardaloedd bychain yng Nghymru yn nhrefn amddifadedd perthnasol plant, ar gael i’w lawrlwytho o dudalennau gwe StatsCymru Llywodraeth Cymru;
  • mae Adroddiad Cryno Mynegai Plant 2011, sy’n cynnwys crynodeb o Fynegai Plant 2011, dadansoddiad awdurdodau lleol, canllawiau ar sut i lawrlwytho a defnyddio Mynegai Plant, crynodeb o newidiadau methodolegol; rhestr o ddangosyddion a ddefnyddiwyd i greu Mynegai Plant 2011, ar gael ar dudalennau gwe ystadegau Llywodraeth Cymru;
  • bydd dadansoddiad dangosyddion: Malc yn cael ei ddiweddaru gyda dangosyddion Mynegai Plant 2011 yn dilyn cyhoeddi Mynegai Plant 2011;
  • De-Orllewin Rhyl 2, Sir Ddinbych, ydi’r ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl Mynegai Plant 2011. Gorllewin Rhyl 2 sydd ail fwyaf difreintiedig a Townhill 1, Abertawe, yr ardal fwyaf difreintiedig yn 2008, sydd yn drydydd.
  • Gorllewin Rhyl 1, Sir Ddinbych oedd yr ail ardal fwyaf difreintiedig yn Mynegai Plant 2008, ond erbyn 2011 mae wedi symud i safle 13.
  • Yr awdurdod lleol sydd â’r ffracsiwn uchaf o ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAs, yr ardaloedd bychain y mae’r Mynegai Plant wedi eu seilio arnynt) yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru yw Caerdydd, gyda mwy nag un ymhob pump (22.2 y cant) o’r 203 LSOA yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Casnewydd yw’r awdurdod lleol ail fwyaf difreintiedig yn ôl y mesur hwn, gydag ychydig o dan un ymhob pump (18.1 y cant) o’r 94 LSOA yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
  • Nid oes un o’r LSOAs ym Mhowys, Ceredigion na Sir Fynwy yn y 10 y cant mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
  • Mae dros un ymhob pedwar (25.8 y cant) o blant sydd wedi eu nodi’n ddifreintiedig o ran incwm ym maes incwm Mynegai Plant 2011 yn byw yn ardaloedd 10 y cant mwyaf difreintiedig Cymru.

Gwybodaeth bellach

Mae'r cyhoeddiad ar gael o dan 'Dolenni Perthnasol'.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd