Skip to content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Dadansoddiad Dangosydd

Cyhoeddwyd y cyhoeddiad cyntaf o’r dadansoddiad gwell o ddangosyddion y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc) 2011 a'r Mynegai Plant MALIC 2011, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, ar 10 Tachwedd 2011, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae'r ystadegau yma ar ddangosyddion amddifadedd, wedi eu hagregu i grwpiau daearyddol a di-ddaearyddol amrywiol, yn cynnwys data ar gyfer Cymru o MALIC 2011, diweddariad i ddangosydd incwm MALIC 2008 a diweddariadau i’r tri dangosydd addysg MALIC 2008.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Mae data MALIC a data Mynegai Plant yn awr ar gael, nid yn unig ar gyfer is-haen ardaloedd cynnyrch ehangach, ond hefyd haen ganol ardaloedd cynnyrch ehangach, yr awdurdodau lleol, Ardaloedd Adfywio Strategol, Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, hefyd grwpiau nad ydynt yn ddaearyddol gan Defra Trefol / Dosbarthiad Gwledig a grwpiau amddifadedd MALlC;
  • Mae’r grwpiau hyn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer y dangosyddion MALIC 2011 a’r Mynegai Plant 2011;
  • Gallwch weld y data a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, StatsWales;
  • Bydd y cyhoeddiad newydd hwn yn cael ei diweddaru bob blwyddyn, lle bo hynny'n bosibl, neu pan fydd data newydd ar gael.
  • Mae gwybodaeth am gywiriad i'r dangosydd incwm yn y parth incwm yn MALIC 2008 a’r cywiriad i’r tri dangosydd yn y parth addysg yn MALIC 2008 (cyfradd absenoldeb ysgolion cynradd, cyfradd absenoldeb ysgolion uwchradd a chanran oedolion 25-59/64 heb gymwysterau) hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)