Skip to content

Cyflogaeth yn y diwydiannau uwch-dechnoleg yn yr UE, 2000

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r Bwletin Ystadegol hwn yn archwilio lefelau cyflogaeth mewn diwydiannau uwch-dechnoleg ledled 15 gwlad yr UE.

Y prif bwyntiau yn y Bwletin yn 2000 yw:

  • Roedd 135,000 o bobl yng Nghymru (neu 10.9 y cant o'r gweithlu) yn gweithio mewn diwydiannau uwch-dechnoleg.
  • Yn yr UE, y gwledydd lle'r oedd y ganran uchaf o'r gweithlu yn gweithio mewn diwydiannau uwch-dechnoleg oedd yr Almaen (14.1 y cant) a Sweden (12.6 y cant) a'r DU yn drydydd (11.6 y cant). Y gwledydd lle'r oedd y ganran isaf oedd Gwlad Groeg (3.4 y cant) a Phortiwgal (4.5 y cant).
  • Yr ardal yn yr UE lle'r oedd y ganran uchaf o'r gweithlu yn gweithio mewn diwydiannau uwch-dechnoleg oedd Stuttgart yn yr Almaen (24.7 y cant). Yr ardal lle'r oedd y ganran isaf oedd Kriti yng Ngwlad Groeg (1.2 y cant).
  • Y wlad lle'r oedd y ganran uchaf ond un o'r gweithlu yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg oedd Cymru (y tu ôl i'r Almaen).

Manylion Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5017
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk 

Diweddariad nesaf

Hydref 2003