Skip to content

Gwariant Teuluol, 2007

Mae’r ystadegau ar wariant teuluol yn cynnwys data ar gyfer y DU gyfan a rhanbarthau o fewn y DU.

Ar 28 Ionawr 2008, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol 'Family Spending: 2007 Edition' gyda chanlyniadau Arolwg Gwariant a Bwyd 2006.

Dyma'r canlyniadau allweddol ar gyfer 2006 yng Nghymru:

  • Cymru oedd â'r gwariant teuluol wythnosol cyfartalog isaf ond un o'r holl wledydd datganoledig a'r rhanbarthau yn Lloegr (£405). Dim ond Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â gwariant is (£360).  Fodd bynnag, mae maint aelwydydd yn amrywio o ranbarth i ranbarth.  Roedd y gwariant cyfartalog y person yng Nghymru yn uwch nag yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon (tabl A35).
  • Aelwydydd Cymru sydd â'r incwm gwario wythnosol isaf ond un o'r holl wledydd datganoledig a'r rhanbarthau yn Lloegr (£451). Unwaith eto, dim ond Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd ag incwm gwario is (£415) (tabl A44).  Fodd bynnag, unwaith eto oherwydd gwahaniaethau ym maint aelwydydd, roedd incwm gwario wythnosol y person yng Nghymru hefyd yn uwch nag incwm Gogledd Iwerddon.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5017
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
Rhagfyr 2008 (dros dro - to be confirmed on Due Out Soon page)