Skip to content

Dadansoddiadau Ystadegol o Wariant Cyhoeddus, 2008

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar wariant cyhoeddus, a gynhyrchir gan Drysorlys Ei Mawrhydi, ar 21 Ebrill 2008 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar wariant cyhoeddus yn cynnwys data ar gyfer holl Ranbarthau Swyddfeydd y Llywodraeth am y cyfnod 2002-03 i 2007-08. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 30 Ebrill 2007.

Mae data 2007-08 yn ymwneud â chyllidebau ac nid alldro (gwir wariant), ac nid ydynt yn Ystadegau Gwladol.

Dyma'r prif bwyntiau i Gymru ar gyfer data cyllidebol 2007-08:

  • Roedd Gwariant Adnabyddadwy Arfaethedig ar Wasanaethau yng Nghymru yn 2007-08 yn £8,577 y pen, 10 y cant yn uwch y pen na chyfartaledd y DU (£7,790 y pen).
  • Roedd gan Gymru y bedwerydd gwariant y pen uchaf yn y DU yn 2007-08, tu ôl Gogledd Iwerddon (£9,789), Yr Alban (£9,179) a Llundain (£9,099).

Y prif bwyntiau i Gymru ar gyfer y gwir wariant:

  • Yn 2006-07, roedd gwariant ar iechyd 7 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU, ac roedd gwariant ar addysg 3 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU.
  • Rhwng 2002-03 a 2006-07, mae gwariant y pen yng Nghymru wedi cynyddu 25 y cant, o'i gymharu â 28 y cant yn y DU.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan HM Treasury.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2080 1401
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
Ebrill 2009 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')