Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol - Mai 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhyddhawyd y bwletin diweddaraf ar yr Ystadegau Gwladol Economaidd Allweddol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 14 Mai 2008 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DUMae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o ystod o ffynonellau ac mae'n cwmpasu amrywiol gyfnodau amser. Mae'r bwletin hwn yn diweddaru'r ystadegau a ryddhawyd yn flaenorol ar 18 Ebrill 2008.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at Fawrth 2008 yn dangos:

  • Bod cyfradd cyflogaeth ymysg pobl oedran gweithio yng Nghymru yn 71.8 y cant, i fyny o 71.5 y cant yn yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Roedd y ffigur cyfartalog ar gyfer y DU yn 74.9 y cant.
  • Roedd cyfradd diweithdra ILO yng Nghymru yn 5.4 y cant o'r rhai economaidd weithgar, i lawr o 5.6 y cant yn yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Ar gyfer y DU gyfan, roedd yn 5.2 y cant.
  • Roedd cyfradd gweithgarwch economic ymysg pobl mewn oedran gweithio yng Nghymru yn 76.0 y cant, i fyny o 75.9 y cant yn yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.  Roedd y ffigur cyfartalog ar gyfer y DU yn 79.1 y cant.

Roedd cyfradd y rhai sy'n hawlio budd-daliadau yn Ebrill 2008 ar gyfer Cymru yn 2.8 y cant o'r gweithlu, i lawr 0.1 pwynt canran o'i gymharu ag Ebrill 2007 (cyfradd y DU - 2.5 y cant).

Diweddarwyd setiau data chwarterol manwl yr Arolwg o'r Llafurlu ar StatsCymru i gynnwys y wybodaeth newydd am y farchnad lafur ar 16 Mai 2008. 

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5017
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
13 Mehefin 2008