Skip to content

Mynegai Cynhyrchu ac Adeiladu Cymru: Chwarter 1, 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fynegai Cynhyrchu ac Adeiladu Cymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 3 Gorffennaf 2008, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar Fynegai Cynhyrchu ac Adeiladu Cymru yn cynnwys data ar gyfer Cymru a'r DU am y cyfnod hyd at Chwarter 1 2008. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 10 Ebrill 2008.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Bu cynnydd o 1.1 y cant ym Mynegai Cynhyrchu Cymru am y pedwar chwarter diweddaraf o'i gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol. Cododd mynegai'r DU 0.5 y cant dros yr un cyfnod.
  • Roedd allbwn Gweithgynhyrchu ar gyfer y pedwar chwarter diweddaraf 3.5 y cant yn uwch na thros y pedwar chwarter blaenorol. Cododd mynegai'r DU 0.6 y cant dros yr un cyfnod.
  • Roedd allbwn Adeiladu ar gyfer y pedwar chwarter diweddaraf 2.1 y cant yn uwch na thros y pedwar chwarter blaenorol. Cododd mynegai'r DU 2.6 y cant dros yr un cyfnod.

Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan StatsCymru.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2080 1401
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
Hydref 2008 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoedd cyn hir)