Skip to content

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: Blwyddyn Hyd at 31 Mawrth, 2008

Cyhoeddwyd canlyniadau diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 18 Medi 2008, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r Wefan Mae ystadegau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cynnwys data hyd at fis 31 Mawrth 2008. Mae'r APS yn cyfuno samplau wedi'u atgyfnerthu o'r Arolwg o'r Llafurlu ac yn darparu data treigl pedwar-chwarter ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU ac hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 20,000 o gartrefi bob blwyddyn. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 26 Mehefin 2008.

Y canlyniadau allweddol ar y farchnad lafur o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Y gyfradd gyflogaeth oedran gweithio yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd oedd 69.8 y cant, a 73.8 y cant yn Nwyrain Cymru (Cymru: 71.3 y cant, DU: 74.4 y cant).
  • Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth 2.8 pwynt canran yn uwch nag yn 2001. Yn Nwyrain Cymru roedd cynnydd o 1.2 pwynt canran (Cymru: 2.2 pwynt canran yn uwch, DU: 0.3 pwynt canran yn uwch).

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Gwybodaeth Bellach:
Bydd setiau data manwl yr Arolwg yn StatsCymru

Diweddariad Nesaf:
11 Hydref 2008