Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol - Hydref 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y bwletin diweddaraf ar Ystadegau Gwladol Economaidd Allweddol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 17 Hydref 2008 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DUMae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o nifer o ffynonellau ac mae'n ymdrin â nifer o gyfnodau. Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 19 Medi 2008.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Awst 2008 yn dangos:

  • Bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn 71.9 y cant, i fyny o 71.6 y cant o'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 74.4 y cant.
  • Yn ôl y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn 5.9 y cant o'r rheini sy'n economaidd weithgar, i fyny o 5.2 y cant o'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Ar gyfer y DU gyfan, roedd yn 5.7 y cant.
  • Cyfradd y gweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru oedd 76.6 y cant, i fyny o 75.6 y cant o'r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 79.1 y cant.

Roedd canran y rheini yng Nghymru a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 3.3 y cant o'r gweithlu ym mis Medi 2008, i fyny 0.5 pwynt canran ar fis Medi 2007 (cyfradd y DU 2.9 y cant).

Roedd canran y rheini yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 2.7 y cant ymhlith y trigolion o oedran gweithio ym mis Medi 2008.  Y gyfradd ar gyfer Dwyrain Cymru oedd 2.4 y cant.

Diweddarwyd y setiau data chwarterol manwl o'r Arolwg o'r Llafurlu ar StatsCymru er mwyn cynnwys gwybodaeth newydd o'r farchnad lafur ar 17 Hydref 2008.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5017
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
14 Tachwedd 2008