Skip to content

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Data ar aelwydydd, 2004 tan 2007

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol setiau data ar aelwydydd o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth am y tro cyntaf yn ddiweddar. Mae'r setiau data hyn yn cwmpasu'r blynyddoedd 2004 tan 2007, ac yn golygu bod modd cynnal dadansoddiadau ar lefel yr Awdurdodau Lleol.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Dyma’r prif ddadansoddiadau y gellir eu cynnal ar y lefel hon bellach: pobl sy’n byw ar aelwydydd heb neb yn gweithio, plant sy’n byw ar aelwydydd heb neb yn gweithio, unig rieni a deiliadaeth tai. Adeg cyhoeddi’r setiau data, darparodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol rai dadansoddiadau ar lefel yr Awdurdodau Lleol o aelwydydd heb neb yn gweithio. Caiff bwletin ei gyhoeddi ym mis Ionawr a fydd yn cynnwys amcangyfrifon o nifer yr unig rieni ym mhob awdurdod lleol, ynghyd â dadansoddiadau eraill yn ymwneud ag aelwydydd heb neb yn gweithio.

Dengys y prif ganlyniadau o ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 18.5 y cant o'r holl aelwydydd o oedran gwaith yng Nghymru yn 2007 yn rhai heb neb yn gweithio. Hynny o'i gymharu â 15.6 y cant o'r holl aelwydydd o oedran gwaith yn y Deyrnas Unedig.  

Ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot oedd y canrannau uchaf o aelwydydd o oedran gwaith heb neb gweithio, sef 26.2 y cant a 24.7 y cant yn y drefn honno. Roedd y canrannau isaf yn Sir Fynwy a Sir y Fflint, sef 12.4 y cant a 13.8 y cant yn y drefn honno.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5817
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
Ionawr 2009 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')