Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol - Tachwedd 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y bwletin diweddaraf ar Ystadegau Gwladol Economaidd Allweddol, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 12 Tachwedd 2008 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o nifer o ffynonellau ac mae'n ymdrin â nifer o gyfnodau. Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Hydref 2008.

Dyma bwyntiau allweddol y datganiad diweddaraf:

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Medi 2008 yn dangos:

  • Bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn 70.6 y cant, i lawr o 71.3 y cant o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 74.4 y cant.
  • Yn ôl y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn 6.7 y cant o'r rheini sy'n economaidd weithgar, i fyny o 5.3 y cant o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Ar gyfer y DU gyfan, roedd yn 5.8 y cant.
  • Cyfradd y gweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru oedd 75.8 y cant, i fyny o 75.5 y cant o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 79.1 y cant.

Roedd canran y rheini yng Nghymru a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 3.4 y cant o’r gweithlu ym mis Hydref 2008, i fyny 0.7 pwynt canran ar fis Hydref 2007 (cyfradd y DU 3.0 y cant).

Roedd canran y rheini yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 2.8 y cant ymhlith y trigolion o oedran gweithio ym mis Hydref 2008.  Y gyfradd ar gyfer Dwyrain Cymru oedd 2.5 y cant.

Gwelwyd cynnydd o 3.1% ym Mynegai Cynhyrchu Cymru ar gyfer y pedwar chwarter hyd at chwarter 2 2008, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Cynnydd Mynegai’r DU dros yr un cyfnod oedd 0.2%.

Gwelwyd gostyngiad o 0.2% ym Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru ar gyfer y pedwar chwarter hyd at chwarter 2 2008, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Cynyddodd mynegai’r DU 3.3% dros yr un cyfnod.

Yn Ebrill 2008, roedd enillion wythnosol gros cyfartalog gweithwyr llawn-amser yng Nghymru yn £498.1, 86.7 y cant o gyfartaledd y DU. Ar sail lle mae pobl yn byw, roedd enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru yn £506.7, 88.2 y cant o gyfartaledd y DU.

Cafodd setiau data chwarterol manwl yr Arolwg o'r Llafurlu sydd ar StatsCymru eu diweddaru ar 14 Tachwedd 2008 i gynnwys y data newydd hyn am y llafurlu.

Cyswllt:
Ffôn: 029 2082 5017
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad Nesaf:
19 Rhagfyr 2008