Skip to content

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth Data ar Aelwydydd, 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yn ddiweddar cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol setiau data ar aelwydydd ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am 2008. Mae'r setiau data hyn yn caniatáu dadansoddiad o aelwydydd ar lefel awdurdod leol, gan gynnwys manylion o bobl mewn aelwydydd heb neb yn gweithio, plant mewn aelwydydd heb neb yn gweithio, rhieni unigol a deiliadaeth tai.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Adeg cyhoeddi’r setiau data, darparodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol rai dadansoddiadau o aelwydydd di-waith ar lefel yr Awdurdodau Lleol o aelwydydd heb neb yn gweithio. Ar Tachwedd 10, bwletin yn cynnwys amcangyfrifon o rhieni unigol yn cale ei gyhoeddi ar gyfer pob awdurdod leol yng Nghymru, ynghyd â dadansoddiadau eraill sy’n ymwneud ag aelwydydd heb neb yn gweithio.

Dengys y prif ganlyniadau o ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 18.8 y cant o'r holl aelwydydd o oedran gwaith yng Nghymru yn 2008 yn rhai heb neb yn gweithio, o’i gymharu â 16.0 y cant o'r holl aelwydydd o oedran gwaith yn y Deyrnas Unedig.

Yn 2008, ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent oedd y canrannau uchaf o aelwydydd o oedran gwaith heb neb gweithio, gyda 24.0 yr un.  Roedd y canrannau isaf o aelwydydd heb neb yn gweithio yn Sir y Fflint a Sir Fynwy (11.1 y cant a 11.9 y cant yn ôl eu trefn).

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan StatsCymru.

Cyswllt

Ffôn: 029 2082 5817
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2009 (Dros dro - i'w gadarnhau ar dudalen I'w gyhoeddi cyn hir)