Skip to content

Proffil Rhanbarthol Marchnad Lafur ac Economaidd – Gogledd Cymru, Tachwedd 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y bwletin diweddaraf ar y Farchnad Lafur a’r Economi wrth Ranbarth Economaidd yng Nghymru a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar 30 o Tachwedd 2010 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegol y Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o amrywiaeth o ffynonellau ac amrywiaeth o gyfnodau amser. Mae’r bwletin yma yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd ar y 28 o Hydref 2010.

Mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys data newydd ar gyfer:

  • Cyfrif Hawlydd (Hydref 2010)
  • Swyddi gwag y Ganolfan Waith (Hydref 2010)
  • Hawlwyr Budd-daliadau (Mai 2010)

Mae adroddiad cryno ar StatsWales yn dangos y data sydd ar gael wrth Awdurdod lleol.

Rydym yn croesawu adborth ar y bwletinau yn ogystal ag unrhyw un o’n allbynnau eraill.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

30 Rhagfyr 2010