Skip to content

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd canlyniadau diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 23 Mehefin 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae ystadegau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cynnwys data am y flwyddyn galendr 2010. Mae'r APS yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o Arolwg o'r Llafurlu ac yn darparu data treigl pedwar-chwarter ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 20,000 o gartrefi bob blwyddyn. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 24 Mawrth 2011.

Y canlyniadau allweddol ar y farchnad lafur o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 64.9 y cant, a 68.8 y cant yn Nwyrain Cymru (Cymru: 66.4 y cant, DU: 70.2 y cant).
  • Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth i lawr 0.1 pwynt canran ar 2001. Yn Nwyrain Cymru roedd y gyfradd 2.0 pwynt canran yn is nag yn 2001 (Cymru: 0.8 pwynt canran yn is, DU: 2.1 pwynt canran yn is).

Bydd gwybodaeth ar yr APS yn cael ddiweddaru i gynnwys y data newydd yma ar StatsCymru dros y diwrnodau nesaf.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

22 Medi 2011