Skip to content

Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru, Chwarter 1, 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 9 Awst 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

UK Statistics Authority Website Mae Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru yn dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn y sector gwasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys data newydd ar gyfer y tri mis hyd at Fawrth 2011 sy’n ymwneud â chwarter 1. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 10 Mai 2011.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae’r tueddiad hirdymor ar gyfer y Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru yn dangos cynnydd o 1.6 y cant wrth gymharu’r pedwar chwarter diweddaraf â’r pedwar chwarter blaenorol. Mae ffigyrau’r DU yn dangos cynnydd o 1.4 y cant dros yr un cyfnod. Roedd y cynnydd yn y tymor hir yng Nghymru yn bennaf oherwydd cynnydd yn allbwn gwasanaethau busnes, dosbarthu, gwestai a thai bwyta a chyllid. Roedd y cynnydd yn y DU oherwydd cynnydd yng ngwasanaethau busnes a dosbarthu.
  • Dros y tymor byrrach (chwarter diweddaraf o gymharu â chwarter blaenorol) bu cynnydd o 2.0 y cant yn allbwn yng Nghymru ac 1.0 y cant yn y DU. Roedd y cynnydd yng Nghymru yn bennaf oherwydd cynnydd mewn gwasanaethau busnes. Roedd y cynnydd yn y DU oherwydd cynnydd yn nhrafnidiaeth a chyfathrebu a  gwasanaethau busnes.

Cyhoeddir tablau StatsWales i gynnwys y data yma erbyn hanner dydd ar y 10 Awst 2011.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Hydref 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')