Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol, Hydref 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 12 Hydref 2011 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o nifer o ffynonellau ac mae'n ymdrin â nifer o gyfnodau. Mae'r bwletin hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Medi 2011.

Dyma bwyntiau allweddol datganiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Awst 2011 yn dangos:

  • Bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 - 64 oed yng Nghymru yn 67.3 y cant, cynnydd o 0.1 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 70.4 y cant, lleihad o 0.3 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 9.0 y cant o’r rheini sydd yn economaidd weithgar, cynnydd 0 0.9 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Ar gyfer y DU cyfan, roedd yn 8.1 y cant, cynnydd o 0.3 pwynt y canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Roedd cyfradd yr anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 oed yng Nghymru yn 25.9 y cant, lleihad 0.7 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 23.3 y cant, cynnydd o 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn gynt.

Roedd canran y rheini yng Nghymru a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 5.6 y cant o’r gweithlu yng Medi 2011, cynnydd o 0.5 pwynt canran ar fis Medi 2010 (cyfradd y DU yn 5.0 y cant, cynnydd o 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn cynt).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Ystadegau Farchnad Lafur Data misol Rhanbarthol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

16 Tachwedd 2011