Skip to content

Demograffeg Busnes, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar ddemograffeg busnes, a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 6 Rhagfyr 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae ystadegau ar enedigaethau, marwolaethau a chyfraddau goroesi  mentrau yn cynnwys data ar gyfer Cymru ac awdurdodau lleol o fewn Cymru ar gyfer 2010. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 1 Rhagfyr 2010.

Dyma bwyntiau allweddol  o’r datganiad diweddaraf:

  • Gwelwyd 7,505 o enedigaethau mentrau yng Nghymru yn ystod 2010, sy'n gyfradd(1) o 8.5 y cant. Dyma'r gyfradd isaf ond un allan o ranbarthau'r DU (o flaen Gogledd Iwerddon). Y gyfradd enedigaethau ar gyfer y DU oedd 10.2 y cant.
  • Roedd 10,985 o farwolaethau mentrau yng Nghymru yn ystod 2010, sef cyfradd(1) o 12.5 y cant. Dyma'r gyfradd pumed isaf o wledydd a rhanbarthau'r DU (gyda Llundain yr uchaf yn 15.0 y cant). Mae cyfradd marwolaethau DU oedd 12.9 y cant.
  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2010 oedd 88,170.  Mae hyn yn cynnwys y mentrau oedd â'u pencadlys yng Nghymru yn unig.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2005 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2010 yng Nghymru oedd 44 y cant, sydd yr un peth a chyfradd oroesi'r DU.  Yng Ngogledd Iwerddon roedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (54 y cant), tra Llundain oedd â’r isaf (40 y cant).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2009 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2010 yng Nghymru oedd 92 y cant, sydd ychydig uwch na chyfradd oroesi'r DU (91 y cant). Y gyfradd oroesi isaf oedd yng Ngogledd Iwerddon (85 y cant) tra oedd yr uchaf yn y De Orllewin Lloegr (93 y cant).

(1) Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Y diweddariad nesaf

Rhagfyr 2012 (amodol - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')