Skip to content

Ystadegau Economaidd Allweddol, Ionawr 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 18 Ionawr 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o nifer o ffynonellau ac mae'n ymdrin â nifer o gyfnodau. Mae'r bwletin hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 14 Rhagfyr 2011.  

Dyma bwyntiau allweddol datganiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

Mae amcangyfrifon yr Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer y 3 mis hyd at fis Tachwedd 2011 yn dangos:

  • Bod y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 - 64 oed yng Nghymru yn 68.2 y cant, cynnydd o 0.8 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 70.3 y cant, lleihad o 0.2 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 8.9 y cant o’r rheini sydd yn economaidd weithgar, cynnydd  0.5 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Ar gyfer y DU cyfan, roedd yn 8.4 y cant, cynnydd o 0.5 pwynt y canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
  • Roedd cyfradd yr anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 oed yng Nghymru yn 25.1 y cant, lleihad 1.0 pwynt canran o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Y ganran gyfartalog ar gyfer y DU oedd 23.1 y cant, lleihad o 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn gynt.

Roedd canran y rheini yng Nghymru a oedd yn hawlio budd-dal diweithdra yn 5.5 y cant o’r gweithlu yng Rhagfyr 2011, cynnydd o 0.5 pwynt canran ar fis Rhagfyr 2010 (cyfradd y DU yn 5.0 y cant, cynnydd o 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn cynt).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales 

Gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Ystadegau Farchnad Lafur Data misol Rhanbarthol 

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

15 Chwefror 2012