Skip to content

Mynegeion Prisiau Defnyddwyr a Manwerthu (DU), Ionawr 2012

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fynegeion Prisiau Defnyddwyr, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 14 Chwefror 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r ystadegau ar Fynegeion Prisiau Defnyddwyr, Prisiau Manwerthu a Phrisiau Manwerthu (heb gynnwys taliadau llog morgais) yn cynnwys data hyd at Ionawr 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 17 Ionawr 2012.

Mae’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn mesur chwyddiant gellir ei gymharu’n rhyngwladol, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gymharu cyfraddau chwyddiant ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer Ionawr 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Ionawr 2012, bu cynnydd o 3.6 y cant yn y CPI, i lawr o’r 4.2 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at Rhagfyr 2011.
  • Yn Ionawr 2012, roedd y mynegai CPI yn 121.1 (2005=100).

Y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) ar gyfer Ionawr 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Ionawr 2012, bu cynnydd o 3.9 y cant yn yr RPI ar gyfer pob eitem, i lawr o’r 4.8 y cant y 12 mis hyd at Rhagfyr 2011.
  • Ym Ionawr 2012, roedd y mynegai RPI ar gyfer pob eitem yn 238.0 (Ionawr 1987 = 100).

Yr RPI ac eithrio taliadau llog morgais (RPIX) ar gyfer Ionawr 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Ionawr 2012, bu cynnydd o 4.0 y cant yn yr RPIX ar gyfer pob eitem i lawr o 5.0 y cant am y 12 mis hyd at Rhagfyr 2011.
  • Yn Ionawr 2012, roedd y mynegai RPIX yn 237.3 (Ionawr 1987 = 100).

Dilyn y linc isod i wefan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer y datganiad llawn, ynghyd â gwybodaeth bellach, tablau a chanllawiau.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol: Mynegeion Prisiau Defnyddwyr

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

20 Mawrth 2012