Skip to content

Mynegai Cynhyrchu a Mynegai Adeiladu, Chwarter 4 2011

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar y Mynegai Cynhyrchu a'r Mynegai Adeiladu a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Ebrill 2012, yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru a Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos y symudiadau tymor byr o ran allbwn y diwydiannau o fewn sectorau cynhyrchu ac adeiladu Cymru,  gan gynnwys data newydd ar gyfer y tri mis hyd fis Rhagfyr sy'n ymwneud â phedwerydd chwarter 2011.

Mae'r ystadegau ynghylch y Mynegai Cynhyrchu a'r Mynegai Adeiladu yn cynnwys data ar gyfer Cymru a'r DU am y cyfnod hyd at Chwarter 4 2011. Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ynghynt ar 17 Ionawr 2012.

Dyma bwyntiau allweddol datganiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

  • Mae'r tueddiad mwy hirdymor ar gyfer Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos gostyngiad o 2.0 y cant wrth gymharu'r pedwar chwarter diweddaraf â'r pedwar chwarter blaenorol.  Gwelwyd gostyngiad o 1.2 y cant yn allbwn y DU yn ogystal. Mae'r symudiadau chwarterol tymor byr hefyd yn dangos gostyngiadau o fewn Cymru a'r DU (3.9 y cant ac 1.3 yn y drefn honno).
  • Mae'r tueddiad mwy hirdymor ar gyfer Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynnydd o 5.8 y cant wrth gymharu'r pedwar chwarter diweddaraf â'r pedwar chwarter blaenorol. Gwelwyd cynnydd o 2.8 y cant yn allbwn y DU.  Mae'r tueddiadau chwarterol tymor byr o fewn y diwydiant adeiladu yn dangos gostyngiad o fewn Cymru a'r DU. Roedd y gostyngiad o fewn Cymru yn fwy na'r gostyngiad o fewn y DU (10.5 y cant o'i gymharu â 0.2 y cant).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

24 Gorffennaf 2012