Skip to content

Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru, Chwarter 1 2012 - Ohirio

Mae'r datganiad ystadegol oedd i fod i gael ei ryddhau ar 10 Gorffennaf 2012 wedi ei ohirio tan 24 Gorffennaf 2012.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Ar hyn o bryd mae’r pwysoliadau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) o fewn Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru wedi eu cyfrifo gan ddosrannu GYC 2008 o SIC2003 i SIC2007. Bydd gwir bwysoliadau GYC SIC2007 yn cael eu cynnwys yng nghyhoeddiad Mynegai Gwasanaethau Marchnata Cymru Chwarter 1, 2012. Bydd y datganiad hwn hefyd yn cynnwys adseilio’r gyfres i 2009 = 100.

O ganlyniad i'r newidiadau hyn bydd oedi yn narpariaeth data’r Deyrnas Unedig (DU) o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n bwydo mewn i’r datganiad hwn, yn unol â chyhoeddiad y Llyfr Cyfrifon Cenedlaethol Glas. Felly bydd cyhoeddiad y chwarter nesaf yn cael ei ohirio tan 24 Gorffennaf.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk