Skip to content

Mynegeion Prisiau Defnyddwyr a Manwerthu (DU), Mawrth 2012

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fynegeion Prisiau Defnyddwyr, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 17 Ebrill 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar Fynegeion Prisiau Defnyddwyr, Prisiau Manwerthu a Phrisiau Manwerthu (heb gynnwys taliadau llog morgais) yn cynnwys data hyd at Mawrth 2012. Mae’r datganiad diweddaraf yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 20 Mawrth 2012.

Mae’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn mesur chwyddiant gellir ei gymharu’n rhyngwladol, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gymharu cyfraddau chwyddiant ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ar gyfer Mawrth 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Mawrth 2012, bu cynnydd o 3.5 y cant yn y CPI, i fyny o 3.4 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at Chwefror 2012.
  • Yn Mawrth 2012, roedd y mynegai CPI yn 122.2 (2005=100).

Y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) ar gyfer Mawrth 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Mawrth 2012, bu cynnydd o 3.6 y cant yn yr RPI ar gyfer pob eitem, i lawr o 3.7 y cant y 12 mis hyd at Chwefror 2012.
  • Ym Mawrth 2012, roedd y mynegai RPI ar gyfer pob eitem yn 240.8 (Ionawr 1987 = 100).

Yr RPI ac eithrio taliadau llog morgais (RPIX) ar gyfer Mawrth 2012:

  • Yn ystod y 12 mis hyd at Mawrth 2012, bu cynnydd o 3.7 y cant yn yr RPIX ar gyfer pob eitem i lawr o 3.8 y cant am y 12 mis hyd at Chwefror 2012.
  • Yn Mawrth 2012, roedd y mynegai RPIX yn 240.2 (Ionawr 1987 = 100).

Dilyn y linc isod i wefan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer y datganiad llawn, ynghyd â gwybodaeth bellach, tablau a chanllawiau.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol: Mynegeion Prisiau Defnyddwyr

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

22 Mai 2012