Skip to content

Allforion Cymru hyd at Chwarter 1, 2012

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar allforion rhanbarthol y Deyrnas Unedig (DU), a gynhyrchir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ar gyfer chwarter cyntaf 2012 ar 7 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r DU.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Bu cynnydd o 5.0 y cant yn allforion Cymru am y pedwar chwarter hyd at ac yn cynnwys chwarter 1 2012 o’u cymharu â’r pedwar chwarter blaenorol (roedd swm o’r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr i fyny 8.2 y cant). Roedd ffigurau chwarter 1 2012 ar eu pennau eu hunain yn is na ffigurau'r un chwarter yn 2011 ond i fyny ar y chwarter blaenorol.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Bu cynnydd o £628 miliwn yng ngwerth allforion Cymru ar gyfer y pedwar chwarter hyd at ac yn cynnwys chwarter 1 2012 o’i gymharu â’r pedwar chwarter blaenorol.
  • Bu cynnydd o £53 miliwn (1.0 y cant) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE), a chynnydd o £575 miliwn (8.0 y cant) yn yr allforion i wledydd y tu allan i’r UE.
  • Gwelwyd cynnydd ymhob un ond un o’r 12 o wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr dros y cyfnod hwn, gyda’r cynnydd trydydd lleiaf yng Nghymru. Roedd y cynnydd fwyaf yn Llundain (cynnydd o 18.0 y cant), yna yn Nwyrain Lloegr (13.8 y cant). Roedd yr unig ostyngiad yn y De Ddwyrain (i lawr 2.4 y cant).
  • Roedd cynnydd o 107.7 y cant yn yr allforion o Gymru rhwng 1999 a’r pedwar chwarter hyd at ac yn cynnwys chwarter 1 2012, y trydydd fwyaf ar ôl Gogledd Ddwyrain Lloegr a Dwyrain Lloegr. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 71.3 y cant ar gyfer y swm o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Dim ond yn yr Alban a welwyd gostyngiad yn y cyfnod hwn.
  • O edrych ar chwarter 1 2012 ar ei ben ei hun, bu gostyngiad yng nghyfanswm allforion (yn ôl gwerth) yng Nghymru o £180 miliwn (i lawr 5.2 y cant) i £3,312 miliwn o’i gymharu â’r chwarter cyfatebol yn 2010. Bu cynnydd ymhob un ond pedwar o’r 12 o wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r cynnydd fwyaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (cynnydd o 10.3 y cant) a’r gostyngiad fwyaf yng Nghymru. Ni fu unrhyw newid yn Nwyrain Lloegr. Yn gyffredinol, cynyddodd gwerth allforion swm o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr 1.8 y cant.
  • Roedd allforion Cymru yn chwarter 1 2012 yn uwch eu gwerth nag yn y chwarter blaenorol (i fyny £14 miliwn neu 0.4 y cant), tra bu gostyngiad yn swm gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr o 3.3 y cant. Bu cynnydd ym mhedwar o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr dros y cyfnod hwn gyda’r cynnydd mwyaf yng Ngogledd Gorllewin Lloegr (i fyny 2.5 y cant). Yn yr Alban oedd y gostyngiad mwyaf (i lawr 11.3 y cant).

Gwybodaeth bellach

Gwefan Gwybodaeth Masnach y DU: Datganiadau i'r Wasg o Ystadegau Masnach Rhanbarthol

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

6 Medi 2012