Skip to content

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, 2011 a’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd canlyniadau diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 21 Mehefin 2012, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dwyn prosesu data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) ymlaen tri mis, sy’n golygu bod cyhoeddi APS bellach ond un mis ar ôl cyhoeddi ffigurau pennawd Arolwg o’r Llafurlu.

Mae ystadegau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cynnwys data am y flwyddyn galendr 2011 a’r flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012. Mae'r APS yn cyfuno samplau wedi'u hatgyfnerthu o Arolwg o'r Llafurlu ac yn darparu data treigl pedwar-chwarter ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Ar gyfer Cymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 20,000 o gartrefi bob blwyddyn. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 22 Mawrth 2012.

Y canlyniadau allweddol ar y farchnad lafur o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 64.9 y cant, a 69.5 y cant yn Nwyrain Cymru (Cymru: 66.7 y cant, DU: 70.0 y cant).
  • Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth i lawr 0.1 pwynt canran ar 2001. Yn Nwyrain Cymru roedd y gyfradd 1.3 pwynt canran yn is nag yn 2001 (Cymru: 0.5 pwynt canran yn is, DU: 2.3 pwynt canran yn is).

Y canlyniadau allweddol ar y farchnad lafur ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012 yw:

  • Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 65.1 y cant, a 69.2 y cant yn Nwyrain Cymru (Cymru: 66.7 y cant, DU: 70.1 y cant).
  • Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth i fyny 0.1 pwynt canran ar 2001. Yn Nwyrain Cymru roedd y gyfradd 1.6 pwynt canran yn is nag yn 2001 (Cymru: 0.5 pwynt canran yn is, DU: 2.2 pwynt canran yn is).

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

20 Medi 2012