Skip to content

Proffil Rhanbarthol Marchnad Lafur ac Economaidd - De-orllewin Cymru, Mehefin 2012

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd y bwletinau diweddaraf am y farchnad lafur a’r economi yn ôl rhanbarth economaidd yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 28 Mehefin 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Mae’r bwletin yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o amrywiaeth o ffynonellau ac amrywiaeth o gyfnodau amser. Mae’r bwletin hwn yn diweddaru’r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 31 Mai 2012.

Mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys data newydd ar gyfer:

  • Cyfrif Hawlwyr (Mai 2012)
  • Swyddi gwag y Ganolfan Byd (Mai 2012)
  • Lefelau a chyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd (y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2012)

Mae canllaw i ddefnyddwyr wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer y proffiliau rhanbarthol a gellir ei weld o dan ddogfennau fethodoleg ar ein gwefan; ynghyd ag adroddiad cryno ar gael ar wefan StatsWales sy’n dangos y data sydd ar gael yn ôl Awdurdod Lleol.

Rydym yn croesawu adborth ar y bwletinau yn ogystal ag unrhyw un o’n allbynnau eraill.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: economic.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

31 Gorffennaf 2012