Skip to content

Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol, Ebrill-Mehefin 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau chwarterol diweddaraf am wastraff trefol, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 23 Medi 2010 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys canlyniadau chwarterol dros dro o’r system “WasteDataFlow” rhwng Ebrill a Mehefin 2010 (Chwarter 1, 2010-11).

Dyma bwyntiau allweddol y cyhoeddiad diweddaraf:

  • Mae cyfran y gwastraff trefol sy’n cael ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu’i gompostio yng Nghymru wedi bod yn cynyddu’n barhaus, gan godi o 41 y cant rhwng Ebrill a Mehefin 2009 i 44 y cant rhwng Ebrill a Mehefin 2010.
  • Mae cyfanswm y gwastraff trefol a gynhyrchir yng Nghymru wedi lleihau yn nghyffredinol, gan ostwng o 427 mil o dunelli rhwng Ebrill a Mehefin 2009 i 413 mil o dunelli rhwng Ebrill a Mehefin 2010.
  • Mae gwastraff gweddilliol cartrefi a gynhyrchir yng Nghymru wedi lleihau’n sylweddol, gan ddisgyn o 78 cilogram y pen rhwng Ebrill a Mehefin 2009, i  71 cilogram y pen rhwng Ebrill a Mehefin 2010.
  • Mae’r gyfradd blynyddol ailgylchu sych a chompostio gwastraff trefol ar gyfer Cymru wedi parhau i gynyddu, o 28 y cant yn 2006-07, i 39 y cant yn 2009-10. Mae'r gyfradd hon, yn seiliedig ar ffigurau terfynol, ychydig yn is na'r targed o 40 y cant o’r ailddefnyddio / ailgylchu / compostio trefol ar gyfer 2009-10.

Nodyn diwygio

Mae ffigurau yn nhabl 5 a thabl 6 eu diwygio ar 10 Tachwedd 2010 yn dilyn sylwi anghysondebau yn y data gan WasteDataFlow. Diwygiwyd y data ar 10 Tachwedd 2010.

Mae ffigurau yn nhablau 5 a 6 wedi eu diwygio oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo colofn newid pwynt canran ymhob achos. Diwygiwyd y data ar 11 Mai 2011.

Adolygiad o gynnwys

Mae cynnwys y datganiad hwn ar hyn o bryd o dan adolygiad a byddem yn croesawu unrhyw adborth gan ddefnyddwyr. Yn benodol, rydym yn ystyried tynnu tablau 5 a 6 o’r ddatganiadau yn y dyfodol sydd yn darparu gwybodaeth ar wastraff gweddilliol y cartref a gynhyrchir fesul person ac i bob annedd.

Gwybodaeth bellach

Gwefan StatsWales

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')