Skip to content

Rhestrau Ddatganoledig Gweinyddiaeth Nwy Tŷ Gwydr, 1990-2009

Ar 6ed o Fedi 2011, cyhoeddwyd y Rhestrau Datganoledig Gweinyddiaeth Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) 1990-2008 drwy wefan Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol (NAEI).

Mae'r adroddiad yn cyflwyno amcangyfrifon o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig ar sail, 'yn ôl ffynhonnell' ac ar sail 'defnyddwyr olaf'. Mae rhestrau ar wahân o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr wedi eu hamcangyfrif ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar gyfer y blynyddoedd 1990, 1995 a 1998 i 2009.

Bydd y wybodaeth a gyhoeddir yn yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau yng Nghymru wrth 3% y flwyddyn erbyn 2011, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Y pwyntiau allweddol ar gyfer Cymru yw:

  • Yn gyffredinol, ers y flwyddyn sylfaen (1990/1995), mae allyriadau o'r fasged o nwyon tŷ gwydr wedi gostwng. Yn 2009, amcangyfrifwyd bod cyfanswm o 42.6 miliwn tunnell o allyriadau cyfatebol i garbon deuocsid (CO2), gostyngiad o dros 23 y cant o'i gymharu ag allyriadau'r flwyddyn sylfaen.
  • Mae’r  brif ffynhonnell o allyriadau yn parhau i fod yn y sector ynni, sy'n cynhyrchu 38 y cant o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mewn cymhariaeth, busnes yw’r ail ffynhonnell fwyaf, yn cyfrif am ychydig dros 19 y cant o allyriadau yn 2008.
  • Mae gan Gymru gyfran uwch o allyriadau masnachu a gwmpesir gan Gynllun Masnachu Allyriadau'r UE na gweddill y DU, cyfeirir ato fel y sector ‘fasnachu'. Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfran uchel o ddiwydiant trwm a chynhyrchu trydan yng Nghymru (ee gollyngiadau o orsafoedd ynni, purfeydd a gwaith integredig haearn a dur). O ganlyniad, dim ond 38.8 y cant o gyfanswm allyriadau CO2 yng Nghymru cafodd eu cynhyrchu gan y 'sector di-fasnachu' yn 2009.
  • Wrth ystyried allyriadau o’r defnyddwyr yn hytrach na chynhyrchwyr ynni, pan fo allyriadau yn sgil cyflenwi ynni yn cael eu hail-ddyrannu i ddefnyddwyr terfynol yr ynni, amcangyfrifir y bu gostyngiad o dros 32 y cant ers y flwyddyn sylfaen (nid yw'r ffigur hyn yn cynnwys allyriadau allforio).
  • Mae Cymru, gyda chyfran lai o allyriadau defnyddiwr olaf y DU, o'i gymharu â'r amcangyfrifon yn ôl ffynhonnell, ac mae wedi cyflawni gostyngiadau allyriadau uwch o lawer ers y flwyddyn sylfaen na mae’r rhestrau yn ôl ffynhonnell yn ei awgrymu.

Nid yw'r ffigurau hyn yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Gwefan Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Medi 2012 (Dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen ‘i’w cyhoeddi cyn hir')