Skip to content

Ffigurau Ansawdd Aer ar gyfer Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, 1990-2009

Ar Ddydd Mercher 12 Hydref 2011, cyhoeddwyd y Ffigurau Ansawdd Aer ar gyfer 1990-2009 drwy wefan y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno rhestrau allyriadau ar gyfer gwledydd y DU ar gyfer y cyfnod rhwng 1990 a 2009, mewn perthynas â’r prif lygryddion ansawdd aer canlynol:

  • Amonia (NH3)
  • Carbon monocsid (CO)
  • Ocsidau nitrogen (NOX fel NO2)
  • Cyfansoddion Organig Anweddol nad ydynt yn Fethan
  • Deunydd gronynnol dan 10 micron (PM10)
  • Sylffwr deuocsid (SO2)
  • Plwm (Pb)

Y prif bwyntiau am Gymru yw:

  • Gostyngodd allyriadau pob un o'r saith prif lygrydd ansawdd aer rhwng 1990 a 2009.
  • Gostyngodd allyriadau amonia 44 y cant, o 46.9(r) cilodunnell ym 1990 i 26.2 cilodunnell yn 2009, o’i gymharu â 22 y cant ar draws y DU cyfan. Mae'r byd amaeth, prif ffynhonnell allyriadau amonia, wedi gweld gostyngiad mawr.
  • Gostyngodd allyriadau carbon monocsid 66 y cant, o 638(r) cilodunnell ym 1990 i 214 cilodunnell yn 2009. Mae'r gostyngiad mewn allyriadau o ffynonellau trafnidiaeth yn un o'r prif resymau dros y gostyngiad hwn. Hefyd, yng Nghymru, mae’r diwydiannau haearn a dur yn cyfrannu 37 y cant o’r allyriadau carbon monocsid ar y funud, ond mae allyriadau o’r sector hyn wedi gostwng 56 y cant ers 1990.
  • Gostyngodd allyriadau ocsidau nitrogen 51 y cant, o 164(r) cilodunnell ym 1990 i 81 cilodunnell yn 2009. Mae cynhyrchu pŵer a thrafnidiaeth yn ffynonellau mawr yn achos ocsidau nitrogen, ac mae'r ddwy wedi gweld gostyngiadau mewn allyriadau ers 1990.
  • Gostyngodd allyriadau Cyfansoddion Organig Anweddol nad ydynt yn Fethan 66 y cant, o 136(r) cilodunnell ym 1990 i 46.1 cilodunnell yn 2009. Mae gostyngiadau mawr wedi bod mewn allyriadau o ffynonellau trafnidiaeth ar y ffordd.
  • Gostyngodd allyriadau deunydd gronynnol dan 10 micron (PM10) 52 y cant, o 19.3(r) cilodunnell ym 1990 i 9.3 cilodunnell yn 2009. Mae'r diwydiant trwm yn chwarae rhan fwy mewn allyriadau PM10 yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae allyriadau PM10 o weithgareddau diwydiannol wedi gostwng 58 y cant ers 1990.
  • Gostyngodd allyriadau sylffwr deuocsid 83 y cant, o 187(r) cilodunnell ym 1990 i 31.5 cilodunnell yn 2009. Yn 2009, purfeydd petroliwm oedd prif ffynhonnell allyriadau yng Nghymru, yn cyfrif am 42 y cant o’r holl allyriadau SO2.
  • Gostyngodd allyriadau plwm 92 y cant, o 0.14(r) cilodunnell ym 1990 i 0.01 cilodunnell yn 2009. Mae hyn yn ostyngiad llai nag ar gyfer y gwledydd DU eraill oherwydd y crynhoad uwch gyfartaledd o ddiwydiant trwm yng Nghymru.

(r) mae allyriadau ar gyfer pob blwyddyn yn cael eu hailgyfrif yn flynyddol gan ddefnyddio’r fethodoleg ddiweddaraf.

Gwybodaeth bellach

Gwefan y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.environment@wales.gsi.gov.uk  

Diweddariad nesaf

Hydref 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')